Group of students

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

12 Wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o'n timau Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Gwaith Ieuenctid ac mae'n addas ar gyfer yr unigolion hynny nad ydynt o reidrwydd yn gorfod ymgymryd â'r hyfforddiant rheoleiddiol ond sydd ag angen i feddu ar ymwybyddiaeth o ddiogelu a gweithio amlasiantaethol.

Ar ddiwedd y modiwl hwnbydd myfyrwyr yn gallu: 

  • Dadansoddi datblygiad ymennydd y glasoed a sut mae hyn yn effeithio ar ymddygiad cymryd risg a gwydnwch.
  • Archwilio'r cysyniad o ddiogelu a rôl y gweithiwr proffesiynol wrth ddiogelu eu hunain a phobl eraill. 
  • Gwerthuso'r sgiliau a'r ffactorau allweddol sy'n gysylltiedig â gwaith aml-asiantaethol effeithiol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd cynnwys dangosol yn cynnwys: 

  • Datblygiad a phontio'r glasoed a sut y gallai hyn ddylanwadu ar ymddygiad y glasoed o ranymddygiadau cymryd risg a gwytnwch. 
  • Bydd y modiwl hefyd yn archwilio'r cysyniad o ddiogelu a sut mae hyn yn ymwneud ag amddiffyn plant.  Bydd hyn yn cael ei archwilio o ran y cyd-destun gwleidyddol a pholisi cyfredol, gan edrych ar rôl y gweithwyr proffesiynol, y sefydliadau a'r Wladwriaeth. 
  • Bydd sesiynau hefyd yn edrych ar y materion a wynebir gan grwpiau penodol o bobl ifanc ac aelodau'r gymuned, megis pobl ifanc mewn gofal ac ymadawyr gofal, oedolion â phroblemau iechyd meddwl, troseddwyr, gofalwyr, pobl sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, ceiswyr lloches ac ati. 
  • Yna bydd y modiwl yn archwilio cysyniadau gweithio amlasiantaethol a gweithio mewn partneriaeth, gan archwilio sut y gall hyn weithio i ddiogelu plant a phobl ifanc, ond hefyd yr effaith y mae hyn yn ei chael ar hunaniaeth broffesiynol yr unigolyn a'r angen i sicrhau bod ymarfer yn wrth-ormesol.

Addysgu ac Asesu

  • Cyflwyniad Poster Grwp yn dadansoddi datblygiad ymennydd glasoed a sut mae hyn yn effeithio ar ymddygiad cymryd risg a gwytnwch. 
  • Astudiaeth achos sy'n trafod cysyniad diogelu a rôl y gweithiwr proffesiynol wrth ddiogelu ei hun ac eraill; gan werthuso'r medrau allweddol a'r ffactorau sy'n gysylltiedig â gweithio aml-asiantaethol effeithiol.

Yn unol â chanllawiau ardystio proffesiynol, bydd angen i fyfyrwyr fynychu o leiaf 80% o'r sesiynau a addysgir. 

Ffioedd a chyllid

£95

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.