(Cwrs Byr) Mentora: Cyflwyniad i Egwyddorion ac Ymarfer

Manylion cwrs
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn am ddatblygu dealltwriaeth o’r prif gysyniadau sy’n gysylltiedig â mentora effeithiol, pwyso a mesur sgiliau a rhinweddau mentor effeithiol, a gwerthuso canlyniadau perthynas fentora cadarnhaol.
Prif nodweddion y cwrs
- Esbonio egwyddorion a chysyniadau allweddol perthynas fentora.
- Dadansoddi’r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu perthynas lwyddiannus rhwng y mentor a’r person sy’n cael ei fentora.
- Gwerthuso canlyniad perthynas rhwng mentor a’r person sy’n cael ei fentora.
- Astudio ar-lein yn eich amser eich hun.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys:
Archwiliad o egwyddorion a chysyniadau allweddol mentoriaethau effeithiol, megis:
- Diffiniadau o fentora
- Pwrpas a manteision mentora
- Sgiliau a Nodweddion mentor effeithiol
- Rôl y mentor
- Cyfnodau allweddol y cylch mentora
- Y berthynas fentora
Sgiliau a Rhinweddau Mentor Effeithiol:
- Rhagdybiaethau, Agweddau a gwerthoedd
- Ymddygiad rhyngbersonol
- Sgiliau cyfathrebu
- Cyfleoedd cyfartal a pharchu amrywioldeb
- Gweithio gydag eraill i ddatblygu cynlluniau ac amcanion
- Adolygu cynnydd tuag at gyflawni amcanion
- Delio gyda datganiadau heriol
- Adeiladu perthynas
- Datblygu empathi
- Arddulliau holi
- Gwrando gweithgar
Deall y berthynas mentora:
- Ffactorau pwysig wrth gychwyn ar berthynas fentora
- Rheolau sylfaenol mewn mentora
- Diffinio ffiniau
- Cyfrinachedd
- Terfynau perthnasau mentora
- Dod â pherthynas fentora i ben mewn ffordd drefnus a chadarnhaol.
Addysgu ac Asesu
Bydd myfyrwyr yn gweithio i baratoi cyflwyniad poster 10 munud yn egluro cysyniadau ac egwyddorion allweddol mentora. Bydd hyn yn cynnwys poster academaidd o 1000 o eiriau, ac yna cyflwyniad 10 munud. Bydd y cyflwyniad yn cael ei recordio gan y myfyriwr a'i lanlwytho i'r amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd myfyrwyr yn gweithio'n unigol ar sefyllfa astudiaeth achos ac yn dadansoddi'r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu perthynas mentora effeithiol ac yn gwerthuso canlyniad y berthynas mentora mewn sefyllfa astudiaeth achos.
Rhagolygon gyrfaol
Mae bod yn fentor effeithiol yn sgìl gwych i’r rheiny sy’n dymuno astudio ymhellach ar raglenni Ieuenctid a Chymuned, Gwaith Cymdeithasol, Addysg a Theuluoedd a Phlentyndod.
Ffioedd a chyllid
£95
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Dyddiad cychwyn 2 Mehefin 2023.
Dyddiadau rhedeg:
9 Mehefin 2023
16 Mehefin 2023
23 Mehefin 2023
30 Mehefin 2023
7 Gorffennaf 2023
14 Gorffennaf 2023