(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Newid Hinsawdd

Manylion cwrs
Hyd y cwrs
6 wythnos
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Ydych chi'n poeni am ddyfodol ein planed? Ydych chi erioed wedi meddwl pam fod mwy o lifogydd a thanau gwyllt yn cael eu hadrodd ar y newyddion? Nod y cwrs byr hwn yw darparu trosolwg sylfaenol o'r problemau sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, yr achosion a'r effaith ar y blaned yr ydym yn byw arni.
Prif nodweddion y cwrs
- Bydd yn ymdrin â'r wyddoniaeth y tu ôl i gynhesu byd-eang, ei heffaith bosibl ar bobl, yr amgylchedd a natur a bydd hefyd yn awgrymu atebion posibl i ddelio â'r broblem.
- Bydd hefyd yn ceisio trin â damcaniaethau camwybodaeth a chynllwynio sy'n ymwneud â'r pwnc hwn yn ogystal â'ch helpu i ddeall sut y gallwn ni fel bodau dynol newid ein hymddygiad i leihau effaith.
- Ymunwch â'r cwrs hwn i ddod yn fwy gwybodus am yr amgylchedd a helpu i wneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol!
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r pynciau canlynol:
- Sut wnaeth dynoliaeth greu newid yn yr hinsawdd? Ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.
- Y wyddoniaeth y tu ôl i newid yn yr hinsawdd, amheuwyr newid hinsawdd a'u dadleuon.
- Effeithiau planed sy'n cynhesu, ystod o ragfynegiadau enghreifftiol a'i heffeithiau ar ddynoliaeth.
- Atebion i broblemau newid yn yr hinsawdd, a'r rhesymau sy'n atal gweithredu ystyrlon.
- Beth sy'n debygol o ddatrys newid hinsawdd yn ymarferol yn y byd go iawn (yn ymdrin ag agweddau gwyddoniaeth, economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol).
Cyflwynir y cwrs dros floc 6 wythnos. 2 awr yr wythnos ar y campws (bydd sesiynau'n cael eu recordio ar gyfer myfyrwyr nad allant mynychu neu sy'n well ganddynt astudio gartref). Dylai myfyrwyr dreulio amser bob wythnos yn cwblhau astudio hunangyfeiriedig.
Addysgu ac Asesu
Bydd yr asesiad ar gyfer y cwrs ar ffurf cwis amlddewis ar-lein yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth o bob agwedd ar y modiwl.
Ffioedd a chyllid
Pris llawn: £95
Staff a myfyrwyr cyfredol Prifysgol Wrecsam: Am ddim
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.