Eiffel tower in Paris

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2026

Hyd y cwrs

16 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae dysgu iaith newydd yn gallu agor llawer o ddrysau. Boed chi eisiau gwella eich rhagolygon gyrfa neu eisiau ymgolli yn niwylliant Ffrainc wrth deithio, mae dysgu’r iaith yn ddewis gwych.

Prif nodweddion y cwrs

  • Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r iaith.
  • Dysgu gwybodaeth sylfaenol am y Ffrangeg.
  • Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r dosbarth wedi ei anelu at fyfyrwyr nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o'r iaith.

Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Cyfathrebu a rhannu gwybodaeth mewn ffordd syml.
  • Arddangos dealltwriaeth a defnyddio ymadroddion dydd i ddydd cyfarwydd a brawddegau sylfaenol iawn.
  • Cyflwyno eu hunain a gofyn ac ateb cwestiynau ynglŷn â gwybodaeth bersonol fel ble mae rhywun yn byw, beth yw swydd rhywun ayyb.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

 

Ffioedd a chyllid

£195 

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol.


Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais am hepgor ffioedd bydd hyn yn mynd at ein tîm ariannu i’w brosesu, ac yna byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi a ydych yn gymwys ai peidio i gael hepgor eich ffioedd..

Os ydych yn gymwys, byddwn wedyn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi sut i sicrhau eich lle ar y cwrs..

* Sylwch mai dim ond i fyfyrwyr sy'n astudio 30 credyd neu lai mewn blwyddyn academaidd y mae'r hepgoriad ffi ar gael. Os byddwch yn dechrau astudio ymhellach yn ystod y flwyddyn academaidd hon, a fydd yn mynd a chi dros 30 credyd, gall hyn olygu dileu'r hepgoriad ffioedd ac efallai y codir tâl arnoch am y cwrs byr.

Dyddiadau'r cwrs

Dyddiad Cychwyn: Dydd Mercher 15 Ebrill 2026 - Archebwch Nawr 

Bydd y sesiynau wyneb yn wyneb yn rhedeg bob prynhawn dydd mercher rhwng 13:00yp - 15:30yp - Campws Wrecsam