University building

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

12 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol, Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Bwriedir y cwrs i ddatblygu a dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth o bwrpas a natur tosturi, a sut i weithio mewn dull tosturiol mewn modd sydd yn hyrwyddo llesiant ac wedi’i awdurdodi.

  • Mae tosturi yn nodwedd hanfodol mewn sawl maes, o iechyd a llesiant, i ofal iechyd ac addysg. 
  • Er hyn, mae ymchwil yn awgrymu nad yw’r nodwedd hon yn cael ei deall yn dda, a bod ‘blinder tosturi’ yn fater sy’n effeithio ar lesiant y gweithlu mewn sawl proffesiwn. 
  • Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno gwybodaeth hen a newydd i ddysgwyr drwy dystiolaeth, theori ac arfer sy’n amlygu’r nodwedd ddynol hanfodol hon.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cwrs unigryw ac arloesol, wedi’i ddylunio i gefnogi’r rheiny mewn proffesiynau sy’n ymwneud â helpu.
  • Archwilio gwybodaeth hen a newydd drwy dystiolaeth, theori ac arfer. 
  • Strategaeth dysgu ac addysgu hyblyg, rhwydd a chefnogol.
  • Drwy gwblhau’r cwrs byddwch yn ennill Tystysgrif Parhau ag Addysg Prifysgol Wrecsam.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Y cyflwr dynol, dioddefaint a ‘safbwyntiau byd-eang’.
  • Natur, pwrpas a gwerth tosturi.
  • Proffesiynau sy’n ymwneud â helpu, tosturi a gorflino.
  • 'Ymarfer Tosturiol Awdurdodedig’
  • Dulliau meithrin tosturi.
  • Bod yn dosturiol mewn amgylchiadau anodd.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â themâu heriol, megis straen gwaith, trawma a achosir gan eraill a dioddefaint dynol, a bydd cyfle i ddysgwyr fyfyrio ar eu profiadau eu hunain ynglŷn â’r themâu hyn. Fel y cyfryw, argymhellir y dylai’r rheiny sy’n cofrestru ar gyfer y cwrs hwn yn teimlo’n ‘iach’, ac yn ddigon parod ac agored i ymgymryd â’r trafodaethau hyn ar hyn o bryd.

Ni fwriedir y cwrs hwn i fod yn therapi ar gyfer y rheiny sy’n dioddef o salwch meddwl sy’n ymwneud â’r gwaith, ac argymhellir y dylai unrhyw un sy’n profi salwch meddwl o’r fath geisio am gymorth drwy eu gwaith neu eu meddyg teulu cyn gwneud cais am y cwrs hwn.

Addysgu ac Asesu

Bydd dysgwyr yn derbyn prif gynnwys y cwrs drwy gyflwyniadau wedi eu recordio a gyflwynir o fewn yr Amgylchedd Ddysgu Rhithiol, lle'u hannogir i archwilio eu barn a’u harferion personol mewn manylder drwy fyfyrdodau dan arweiniad, drwy ddull o’u dewis nhw (e.e. cadw dyddlyfr, myfyrio, neu weithgareddau creadigol). Cynhelir grwpiau trafod cynorthwyedig ar adegau strategol er mwyn galluogi dysgwyr i gadw cysylltiad, a rhannu eu cynnydd.

Bydd disgwyl i ddysgwyr gynhyrchu myfyrdod 500 gair ar bob un o’r tri deilliant dysgu (cyfanswm o 1,500 o eiriau). Dylai’r myfyrdodau ddisgrifio beth sydd wedi’i ddysgu, a thrafod barn ac arfer bersonol y dysgwr, gan gynnwys sut maent wedi newid a datblygu dros amser wrth ymgymryd â gwaith ymchwil a theori. Mae'r tri deilliant dysgu fel y ganlyn:

  1. Adnabod yr arferion a’r meddylfryd sy’n ymwneud â thosturi, a all arwain at orflino.
  2. Disgrifio tosturi amdanoch chi eich hunain ac eraill ar lefel bwriad, prosesu ac ymarfer.
  3. Trafod dulliau o feithrin tosturi tuag at eich hunain ac eraill.

Ffioedd a chyllid

£95

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim - Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol

Dyddiadau cyrsiau

Dydd Llun Ionawr 27 2025 - Dydd Llun Ebrill 28 2025 - Archebwch nawr

Mae dysgwyr yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau ar-lein yn annibynnol bob wythnos yn eu hamser eu hunain, gyda thair sesiwn wyneb yn wyneb a fydd yn cael eu cynnal ar Gampws Wrecsam ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Merhcer Chwefror 12 2025 - 12:30- 14:30
  • Dydd Mercher Mawrth 12 2025 - 12:30- 14:30
  • Dydd Mercher Ebrill 9 2025 - 12:30 - 14:30