Mathemateg Sylfaen ar gyfer myfyrwyr STEM

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
3 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno neu'n darparu cwrs gloywi ar gyfer prif gysyniadau mathemategol a thechnegau i chi lwyddo yn eich astudiaethau STEM ym Mhrifysgol Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
- Datblygu hyder mewn mathemateg
- Ymgyfarwyddwch gydag elfennau sylfaenol ar gyfer cyfrifo technegol a thrin fformiwla
- Am ddim i ymgeiswyr STEM Lefel 4 Prifysgol Wrecsam
Beth fyddwch chin ei astudio
- Systemau rhif
- Unedau a nodiant
- Algebra
- Trigonometreg
- Dadansoddi data
Gofynion mynediad a gwneud cais
Addas i ymgeiswyr ar gyfer darpariaeth Rhan Amser ym Mhrifysgol Wrecsam
Addysgu ac Asesu
- Dysgir ar y campws mewn fformat gweithdy
- 1 diwrnod yr wythnos am 3 wythnos
- Asesiadau cwis Aml-ddewis
Ffioedd a chyllid
Am ddim i ymgeiswyr STEM Lefel 4 Prifysgol Wrecsam
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais am hepgor ffioedd bydd hyn yn mynd at ein tîm ariannu i’w brosesu, ac yna byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi a ydych yn gymwys ai peidio i gael hepgor eich ffioedd..
Os ydych yn gymwys, byddwn wedyn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi sut i sicrhau eich lle ar y cwrs..
* Sylwch mai dim ond i fyfyrwyr sy'n astudio 30 credyd neu lai mewn blwyddyn academaidd y mae'r hepgoriad ffi ar gael. Os byddwch yn dechrau astudio ymhellach yn ystod y flwyddyn academaidd hon, a fydd yn mynd a chi dros 30 credyd, gall hyn olygu dileu'r hepgoriad ffioedd ac efallai y codir tâl arnoch am y cwrs byr.