(Cwrs Byr) Rhagnodi cymdeithasol gwyrdd – egwyddorion ac ymarfer

Green spaces on campus

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

6 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs rhyngweithiol hwn sy'n canolbwyntio ar ymarfer yn dod â rhagnodwyr cymdeithasol ynghyd a'r rhai sy'n darparu gweithgareddau 'gwyrdd', sy'n seiliedig ar natur. Mae'r dull cyfunol yn cyfuno deunyddiau dysgu ar-lein y gellir eu cyrchu ar adeg sy'n gyfleus i'r cyfranogwr ag ef ar weithdai campws lle gellir trafod a chymhwyso dysgu.

Mae'n cynnig cyfle nid yn unig i gael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd rhagnodi gwyrdd ond hefyd i wella sgiliau a phriodoleddau proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol.

Prif nodweddion y cwrs

Rhwydweithio gydag ymarferwyr o amrywiaeth o gefndiroedd

Cwrs am ddim

Gweithdai cefnogol ac anffurfiol i atgyfnerthu dysgu

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Penderfynyddion cymdeithasol ac ecolegol iechyd corfforol/meddyliol
  • Iechyd cymdeithasol a manteision cymunedau cysylltiedig
  • Presgripsiynu cymdeithasol – dulliau seiliedig ar asedau a chyd-gynhyrchu yn y cyd-destun 'gwyrdd'
  • Natur a chwmpas presgripsiynu gwyrdd – ecotherapiau, presgripsiynu gwyrdd dan do
  • Proffesiynoldeb – cod ymddygiad ar gyfer ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol
  • Proffesiynoldeb – egwyddorion cyfweld ysgogol a darganfod 'beth sy'n bwysig'
  • Goresgyn rhwystrau – egwyddorion dulliau sy'n canolbwyntio ar ddatrysiad

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn

Addysgu ac Asesu

Bydd y modiwl yn cyfuno dysgu ar-lein ag ar weithdai'r campws. Dylai cyfranogwyr neilltuo 3 awr yr wythnos i gwblhau gweithgareddau asyncronig a 3 awr arall ar gyfer y gweithdy.

Mae portffolio o weithgareddau sy'n ffurfio'r asesiad gan gynnwys cwis ar-lein, cofnod dysgu a setiau dysgu gweithredol

Dyddiadau Cwrs

4, 11, 18, 25ain o Fedi

Hydref 2il

Amserau sesiynau

14:00 - 17:00