(Cwrs Byr) Rheoli Diabetes

Manylion cwrs
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Nod y modiwl hwn yw datblygu gallu a dulliau beirniadol o roi strategaethau ar waith sy’n mynd i’r afael â chymhlethdod gofalu am unigolyn sydd â diabetes drwy ddefnyddio theorïau cyfredol, ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a datblygiadau technolegol. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i uwchsgilio nyrsys i reoli diabetes.
Prif nodweddion y cwrs
- Yn ymarferol a rhyngweithiol.
- Gwella’ch gwybodaeth am reoli diabetes mewn amrywiaeth o rolau nyrsio cofrestredig.
- 20 credyd ar lefel 6/7 ar ôl ei gwblhau.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae’r modiwl hwn yn ymarferol ac yn rhyngweithiol, yn mynd i’r afael ag agweddau gwahanol ar reoli diabetes fel meddyginiaeth, inswlin, dulliau dietegol, gofal traed, retinopathi a monitro glwcos gwaed. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw nyrsys ôl-gofrestru sy'n gofalu am gleifion â diabetes gan gynnwys nyrsys practis, nyrsys ysbyty cymunedol, nyrsys ardal a nyrsys ward.
Gofynion mynediad a gwneud cais
I gadw lle ar y cwrs hwn cysylltwch ag postregadmissions@glyndwr.ac.uk.
Addysgu ac Asesu
Traethawd
Dyddiadau'r Cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cysylltwch ag postregadmissions@glyndwr.ac.uk.