(Cwrs Byr) Rheoli Gweithrediadau Busnes

Manylion cwrs
Hyd y cwrs
8 wythnos
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae rheoli gweithrediadau busnes yn faes sy’n gofyn am sgiliau a gwybodaeth allweddol mewn oes pan fo sefydliadau yn wynebu newidiadau mawr a chymhleth sy’n ddibynnol ar ei gilydd.
Prif nodweddion y cwrs
• Dysgu sgiliau rheoli gweithrediadau busnes a sut i arwain gwaith o’r fath.
• Astudio ffyrdd i helpu eich busnes i sefydlu ei arlwy mewn marchnadoedd cystadleuol, a thyfu’r arlwy hwnnw.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno gyfnod o 8 wythnos a bydd yn mynd i'r afael yn fras â'r canlynol:
- Cyflwyniad i Reoli Gweithrediadau Busnes
- Llif prosesau a rheoli capasiti
- Gweithrediadau darbodus a rheoli ansawdd
- Rheoli cadwyn gyflenwi
- Asesu a lliniaru risg
- Pecynnau cymorth a thechnegau ar gyfer cynllunio gweithrediadau busnes
- Rhoi cynllun gweithrediadau busnes ar waith sy'n blaenoriaethu adnoddau dynol a deunyddiau
- Addasu i risgiau a chyfleoedd sy'n newid
Caiff y cwrs ei gyflwyno fel hyn:
- 1 x darlith wedi recordio’r wythnos.
- Deunydd cefnogi ar Moodle, megis dolenni at fideos (e.e. TED talks), llyfr Moodle os yw'n briodol a darllen pellach
- Deunydd i gefnogi'r gwaith o gyflwyno tiwtorialau 6 x Asyncronig
- 2 x fforwm fyw yn para dwy awr yr un.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk
Addysgu ac Asesu
Bwriad yr asesiad yw galluogi myfyrwyr i gymhwyso fframwaith eu dysgu i'w busnes. Mae'r aseiniad 2,000 o eiriau yn cyfeirio'n uniongyrchol at fusnes a gweithredoedd busnes y myfyrwyr eu hunain i wella Rheoli Gweithrediadau Busnes.
Mae tair tasg sy'n ffurfio'r Log Dysgu, sy'n cynnwys y gofyniad i gyflwyno o leiaf 200 o eiriau bob wythnos i'r tiwtorialau asyncronig. Bydd y Log Dysgu yn darparu tystiolaeth o ddatblygiad dysgu a sgiliau'r myfyrwyr eu hunain. Mae'n gofnod o'r hyn sydd wedi'i ddysgu, ei roi ar brawf a'i adlewyrchu'n feirniadol ac oherwydd, dylai ddatblygu a thystiolaethu dysgu'r myfyriwr ei hun ar bwnc Rheoli Gweithrediadau Busnes.
Ffioedd a chyllid
£75
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.