(Cwrs Byr) Sefydliadau Blaenllaw Mewn Cyfnod o Argyfwng Byd-Eang
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
6 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Amcan y cwrs yw ymgysylltu â'n cymuned leol ac ehangach ynghylch llwyddo mewn cyfnodau o argyfwng, megis y sefyllfa COVID-19 bresennol. Bydd y cwrs yn tynnu sylw at y rôl gydweithredol sydd gan y diwydiant â'r byd academaidd i chwarae mewn darparu llwyddiant i'r gymuned gyfan.
Prif nodweddion y cwrs
- Ar hyn o bryd, mae'r byd yn newid yn gyflym ac mae angen i fusnesau fod yn hyblyg a gallu ymateb i'r datblygiadau hyn er mwyn sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.
- Mae'r sefyllfa COVID-19 bresennol yn rhoi cyfle delfrydol i ymestyn datblygiad personol drwy ennill gradd mewn busnes neu bwnc sy'n gysylltiedig â busnes.
- Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o'r materion sy'n achosi heriau i fusnesau, a strategaethau posib ar gyfer datblygu gwytnwch busnesau yn ystod cyfnodau anodd.
- Mae'r modiwl wedi'i ddylunio i fod yn galonogol, yn agored i'r holl ddysgwyr ac adlewyrchu natur newidiol y tirlun iechyd cyhoeddus, yn enwedig mewn argyfwng byd-eang.
- Drwy gymryd rhan, efallai bydd myfyrwyr yn chwilfrydig ac yn magu hyder yn eu galluoedd academaidd personol.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cynhelir y cwrs am chwe wythnos, gan ei fod ar-lein ac i ganiatáu hyblygrwydd wrth i fesurau pellach cymdeithasol ddechrau llacio.
- Ymgysylltir â myfyrwyr ar ddydd Llun, Mercher a Gwener am 5.30pm. Bydd bob dydd Llun yn cychwyn gyda fideo byw 20-30 munud gyda thiwtor a myfyrwyr, a bydd yn cynnwys trafodaeth.
- Bydd gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr yn cael eu huwchlwytho i'w cwblhau ganddynt, a'u huwchlwytho i fforwm trafod.
- Bydd dydd Mercher a Gwener hefyd yn cynnwys deunydd fideo (20-30 munud, ond wedi ei recordio ymlaen llaw) ac yn cynnwys gweithgareddau i'w cwblhau gan fyfyrwyr.
Addysgu ac Asesu
Asesiad 250 gair yn y fforwm trafod.
Ffioedd a chyllid
Am Ddim
Dyddiadau cyrsiau
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes