(Cwrs Byr) Sylfeini Sgiliau Digidol
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
10 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae Sgiliau Digidol yn derm ymbarél sy'n cwmpasu ystod eang o gymwyseddau sy'n hanfodol i lywio a rhagori ym myd digidol heddiw. Yn y cwrs 10 wythnos hwn, byddwch yn datblygu sgiliau digidol craidd sy'n gwella eich effeithiolrwydd mewn astudiaethau academaidd, prosiectau personol, a bywyd proffesiynol.
P'un a ydych yn newydd i offer digidol neu'n dymuno cryfhau eich dealltwriaeth, bydd y cwrs hwn yn eich tywys drwy gysyniadau hanfodol a chymwysiadau ymarferol.
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio ar-lein am ddim
- Archwilio Sylfeini Llythrennedd Digidol
- Meistroli Offer Cyfathrebu ar gyfer Cydweithio
- Dysgu Trefnu, Dadansoddi, a Chyflwyno Gwybodaeth
- Creu Cynnwys Digidol ar gyfer Defnydd Personol a
- Phroffesiynol
- Rheoli Llifoedd Gwaith a Chynhyrchiant Digidol
Beth fyddwch chin ei astudio
10 modiwl i gwmpasu ystod eang o Sgiliau Digidol.
Wythnos 1: **Dyfeisiau a Rhyngwynebau** – defnyddio cyfrifiaduron, gliniaduron, a dyfeisiau symudol, systemau gweithredu, llywio meddalwedd a theilwra gosodiadau dyfeisiau.
Wythnos 2: **Cynhyrchiant a Threfniadaeth** – rheoli ffeiliau a ffolderau digidol gan ddefnyddio offer a thechnegau cynhyrchiant.
Wythnos 3: **Cyfathrebu a Chydweithio** – cyfathrebu effeithiol trwy e-bost, offer cydweithio ar-lein, platfformau, netiquette ac arferion digidol priodol.
Wythnos 4: **Llythrennedd Gwybodaeth** – gwerthuso ffynonellau gwybodaeth ddigidol, dulliau chwilio a nôl gwybodaeth, hawlfraint a phriodweddau deallusol.
Wythnos 5: **Diogelwch a Phreifatrwydd** – mynd i’r afael â bygythiadau ar-lein, rheoli cyfrineiriau, amddiffyn data, ôl troed digidol, a phreifatrwydd.
Wythnos 6: **Creadigrwydd a Chyfryngau Amlgyfrwng** – creu a golygu cyfryngau digidol gan ddefnyddio amryw o feddalwedd.
Wythnos 7: **Prosesu Geiriau** – defnyddio MS Word.
Wythnos 8: **Taenlenni** – gweithio gyda MS Excel.
Wythnos 9: **Cyflwyniadau** – creu, fformatio, a datblygu cyflwyniadau gyda MS PowerPoint.
Wythnos 10: **Dogfennau PDF** – rhwymo corff o waith yn ddigidol mewn fformat gydnaws cyffredinol.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae angen i fyfyrwyr gael mynediad at Microsoft 365 (Office).
Nid oes gofynion mynediad eraill; dim ond diddordeb yn y pwnc sydd ei angen!
Mae’r broses archebu’n cau wythnos cyn dyddiad dechrau’r cwrs.
Addysgu ac Asesu
Mae hwn yn fodiwl ar-lein gyda sesiwn galw heibio ddewisol ar ddydd Gwener i gael cyngor ar y modiwl ac adborth ar asesiadau.
Mae asesiad y modiwl hwn yn 100% gwaith cwrs.
Mae pob un o’r deg uned yn cynnwys asesiad ymarferol wedi’i gynllunio i atgyfnerthu a defnyddio’r sgiliau digidol a drafodir.
Ar ddiwedd y cwrs, bydd y tasgau wedi’u cwblhau’n cael eu casglu mewn llawlyfr thematig.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
Dyddiadau'r cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.