(Cwrs Byr) Mandarin

Manylion cwrs
Hyd y cwrs
12 wythnos
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae dysgu iaith newydd yn gallu agor llawer o ddrysau. Boed chi eisiau gwella eich rhagolygon gyrfa neu eisiau ymgolli yn niwylliant Tsieina wrth deithio, mae dysgu’r iaith hon yn ddewis gwych.
Prif nodweddion y cwrs
- Dysgu gwybodaeth sylfaenol am yr iaith Mandarin
- Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad
- Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o Mandarin.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae'r dosbarth hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o'r iaith.
Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu:
Cyfathrebu a rhannu gwybodaeth mewn ffordd syml.Arddangos dealltwriaeth a defnyddio ymadroddion dydd i ddydd cyfarwydd a brawddegau sylfaenol iawn, Cyflwyno eu hunain a gofyn ac ateb cwestiynau ynglŷn â gwybodaeth bersonol fel ble mae rhywun yn byw, beth yw swydd rhywun ayyb.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk
Addysgu ac Asesu
Mae'r asesiad yn cynnwys y tasgau a restrir isod:
• sgiliau sgwrsio: defnyddio 3 enghreifftiau byr o natur bob dydd a tthrafodaeth rydd
• sgiliau ysgrifennu: testun byr, er enghraifft, cerdyn post neu lythyr
• sgiliau darllen: darllen a deall testun byr ac ateb cwestiynau yn Saesneg
• sgiliau gwrando: gwrando ar ddeunydd sain ac ateb cwestiynau am y deunydd yn Saesneg
Ffioedd a chyllid
£150 ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol nad ydynt yn Wrecsam
£50 i fyfyrwyr a staff Prifysgol Wrecsam
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
dyddiadau cyrsiau
I gael ei gadarnhau