
Prifysgol Wrecsam yn Eisteddfod Genedlaethol 2025
Yn falch o ffurfio partneriaeth gydag un o ddathliadau diwylliannol mwyaf eiconig Cymru.
Mae Prifysgol Wrecsam yn hynod falch o groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Wrecsam yr haf hwn - ac yn fwy balch byth o fod yn bartner swyddogol a noddwr Maes B, cartref cerddoriaeth Gymraeg gyfoes a diwylliant ieuenctid yn yr ŵyl.
Fel prifysgol ddinesig fodern wedi’i gwreiddio yng nghanol Gogledd Cymru, rydym yn frwdfrydig dros gefnogi’r iaith Gymraeg, cymunedau lleol, a bywyd diwylliannol ledled y rhanbarth.

Byddwch yn Barod i Archwilio
Chwiliwch am ein rhestr lawn o weithgareddau, sgyrsiau, a dangosiadau sy’n digwydd drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.

Elen Mai Nefydd, Pennaeth Darpariaeth Academaidd Cymraeg
"Fel prifysgol, rydym yn falch iawn o chwarae rhan allweddol yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn Wrecsam, dathliad o dreftadaeth yr Iaith Gymraeg sy’n uno’r genedl. Mae’n fraint bod yn rhan o ddigwyddiad sydd â phwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol dwfn, gan ddod â phobl ynghyd o bob cwr o Gymru ac o’r byd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn gynnes i Wrecsam."
Ail-fyw Rhondda Cynon Taf
Camwch yn ôl i fwrlwm ein stondin yn yr Eisteddfod y llynedd, ble daeth chwilfrydedd, sgyrsiau a chreadigrwydd yn fyw.








.jpg)





Dod o hyd i ble ti’n perthyn
Diwrnodau Agored sydd ar ddod.
Ymunwch â ni ar ddiwrnod agored sydd i ddod i gwrdd â'ch darlithwyr, darganfyddwch fwy am ein cyrsiau, darganfyddwch ein cyfleusterau a chael blas ar fywyd myfyriwr.
Porwch ein holl ddiwrnodau agored a digwyddiadau.