.jpg)
Amserlen yr Eisteddfod
Cynlluniwch Eich Wythnos gyda Phrifysgol Wrecsam
O ddylunio gêm a llafariaid Cymraeg i chwaraeon, iechyd, a chelf, mae pob diwrnod yn yr Eisteddfod yn llawn gweithgareddau, creadigrwydd, a sgyrsiau. P’un a ydych yma i ddysgu, crwydro, neu i gael hwyl, mae rhywbeth ar gyfer pawb. Porwch drwy’r amserlen a gweld beth sy’n tanio’ch diddordeb!
Content Accordions
- Dydd Sadwrn, 2 Awst, 2025
Cyfryngau, Gemau Cyfrifiadurol a Chenhadaeth Ddinesig
Gweithgareddau
- Dewch i greu eich cwrs rhwystrau dryslyd eich hun yn y gweithgaredd dylunio gêm hwn ar arddull 'Fall Guys' - perffaith ar gyfer unrhyw lefel sgil!
- Adroddiad tywydd chwareus ar gyfer y Maes - gallwch ddisgwyl awelon telyn, stormydd barddoniaeth, ac ysbeidiau heulog o gân a chawl
- Gwyliwch ein darn grymus o ddawns a grëwyd gyda 'Stand Together' a grwpiau byddar lleol, sy'n ymchwilio i rythm, emosiwn, a thirwedd Cymru
- 100 mlynedd ers Trychineb Glofaol Gresffordd - archwiliwch ei etifeddiaeth a chreu printiau drwy ddefnyddio deunyddiau hanesyddol ac inc
- Ymchwiliwch i emosiynau, trawma, a galar drwy gemau creadigol a chelf weledol yn y gweithdy ymarferol, pwerus hwn
- Dewch i greu eich Coron Eisteddfod eich hun
- Dewch i gael cipolwg ar ein Harddangosfa Merched Ethnig mewn Arweinyddiaeth gan 'Same but Different'
- Ewch ati'n ymarferol gyda'n gêm Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol
- Dydd Sul, 3 Awst, 2025
Sgiliau Cymraeg, Gyrfaoedd ac AD
Gweithgareddau
- Cymerwch ran mewn sesiwn Holi ac Ateb gyda thiwtor Cymraeg
- Cysylltu ag eraill sydd yn dysgu Cymraeg ar bob lefel.
- Ewch ati'n greadigol gyda gweithgareddau crefft ymarferol
- Dewch i chwarae gemau Cymraeg hwyliog i brofi eich geirfa
- Dathlwch eich hunaniaeth drwy gelf yn ein gweithgaredd 'Creu Eich Fi Bychan Eich Hun', gyda thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol
Sgyrsiau, Paneli a Dangosiadau
Panel: Cynllun Cymraeg Gwaith
Amser: 14:15-15:00
Aelodau’r Panel: Helen Prosser, Teresa Davies, Hayley Dennis, Amber Percy, Jonathan Lloyd a Jasmine Roberts
Crynodeb: Bydd Helen Prosser (Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol), Teresa Davies (Cydlynydd a Thiwtor Cymraeg yn y Gweithle Prifysgol Wrecsam) a grŵp o ddysgwyr Cymraeg o lefelau amrywiol fydd yn trafod y cynllun, ei ddwy flynedd gyntaf yn y Brifysgol, a phrofiadau’r staff o ddysgu Cymraeg.
Sgwrs: Archwilio Dysgu Cymraeg mewn Plismona, Troseddeg a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Wrecsam
Amser: 15:00-15:30
Aelodau'r Sgwrs: Teresa Davies a Jonathan Lloyd
Crynodeb: Dysgwch sut mae myfyrwyr Plismona, Troseddeg a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Wrecsam yn paratoi ar gyfer y byd gwaith drwy gyfleoedd dysgu Cymraeg. Ar ben hynny, cewch gipolwg tu ôl i'r llen ar Ddiwrnod y Drychineb blynyddol sy'n llawn antur, mewn ffilm a grëwyd gan Jonathan Lloyd, Cynhyrchydd Cynnwys Marchnata a Chyfathrebu.
- Dydd Llun, 4 Awst, 2025
Addysg
Gweithgareddau
- Cymerwch ran mewn gweithgareddau gwyddoniaeth a thechnoleg, yn cynnwys y sgrin werdd
- Dysgwch sut i feistroli dawns werin Gymreig draddodiadol
- Ewch ati i ddylunio a chreu bathodyn Cymraeg deniadol
- Rhowch eich gwybodaeth ar brawf gyda chwis hwyliog am yr ardal leol
- Byddwch yn greadigol drwy ddylunio Coron Eisteddfod
- Adeiladwch eich rholer dis digidol eich hun gan ddefnyddio Microbits
- Chwaraewch gyfres o gemau, yn cynnwys: 'Profwr Tablau Lluosi' a 'Dyfalwch y Rhif'
Sgyrsiau, Paneli a Dangosiadau
Dangosiad: Fideo Dathliad Cylch Meithrin Wrecsam
Amser: 14:00-14:20
Crynodeb: Ymunwch â ni ar gyfer dangosiad 20 munud sy'n arddangos y gwaith a gyflawnir dan arweiniad Cylch Meithrin Wrecsam. Mae'r dangosiad yn amlygu amrywiaeth o weithgareddau creadigol sy'n digwydd mewn meithrinfeydd lleol, gan ddathlu sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â'r Gymraeg a diwylliant Cymru.
- Dydd Mawrth, 5 Awst, 2025
Chwaraeon
Gweithgareddau
- Ewch ati'n greadigol i ddylunio eich baner cornel eich hun i gefnogi eich hoff dîm
- Dewch i weld sut mae athletwyr elitaidd yn hyfforddi ac adfer drwy ein harddangosiad offer VALD. Cystadlwch ag eraill a chymharwch eich sgôr ag athletwyr proffesiynol.
- Heriwch eich teulu a'ch ffrindiau yn ein her Cadw'r Bêl i Fyny gystadleuol
Sgyrsiau, Paneli a Dangosiadau
Sgwrs: O'r Cae i'r Gymuned: Effaith a Gweledigaeth Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam
Amser: 14:00-14:30
Aelodau'r Sgwrs: Sara Hilton
Crynodeb: Dysgwch sut mae Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam yn manteisio ar bŵer pêl-droed i greu effaith gymdeithasol hirhoedlog. O raglenni llawr gwlad i gymorth iechyd meddwl a mentrau addysg, mae'r sgwrs hon yn ystyried rôl gynyddol y Sefydliad mewn adeiladu cymuned fwy cryf, iach a chysylltiol
Panel: Chwaraeon i Bawb: Sicrhau Dyfodol y Gymraeg mewn Chwaraeon
Amser: 14:45-15:30
Aelodau’r Panel: Sara Hilton (Uwch Ddarlithydd mewn Pêl-droed a Gwyddor Hyfforddi ym Mhrifysgol Wrecsam), Manon Rees O'Brien (Actif Gogledd Cymru), Bethan Woolley (Cymdeithas Bêl-droed Cymru), Elgan Williams (Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam), Chwaraeon Cymru, Gwyn Derfel (Undeb Rygbi Cymru) a Hoci Cymru
Crynodeb: Sut allwn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn y byd chwaraeon? Mae'r panel hwn yn dod ag amrywiaeth o leisiau ynghyd o feysydd gwahanol y byd chwaraeon i archwilio'r cyfleoedd a'r heriau a ddaw o hyrwyddo'r Gymraeg mewn clybiau cymunedol, cyrff cenedlaethol, a rhaglenni llawr gwlad.
- Dydd Mercher, 6 Awst, 2025
Iechyd ac Astudiaethau Cymru
Gweithgareddau
- Archwiliwch y maes Gofal Iechyd gyda'n modelau efelychu a chymerwch ran mewn cyfres o weithgareddau rhyngweithiol
- Derbyniad Blynyddol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 4.y.p.
Sgyrsiau, Paneli a Dangosiadau
Panel: Pam mae Cymru yn werth ei hastudio?
Amser: 11:30-12:15
Aelodau’r Panel: Yr Athro Rhys Jones (Prifysgol Aberystwyth) a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd). Aelodau eraill o'r panel i'w cadarnhau.
Crynodeb: Mae Astudiaethau Cymru yn archwilio ein hiaith, ein diwylliant, ein daearyddiaeth, ein pobl, ymhlith pethau eraill. Mae'r sesiwn hon yn gofyn: pam mae astudio Cymru'n bwysig, a sut all lywio ein dyfodol? Ymunwch yn y sgwrs a helpwch i ysgogi'r bennod nesaf o Astudiaethau Cymru.
Panel: Anabledd yng Nghymru: Iaith, Addysg a Chyfathrebu (Mae'r digwyddiad yma yn cael ei drefnu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru)
Amser: 13:00-14:00
Aelodau’r Panel: Yr Athro Sara Elin Roberts FLSW (Ysgolhaig Annibynnol ac Athro Anrhydeddus yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor), Dr Emily Lowthian (Prifysgol Abertawe), Marjorie Thomas (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a Rebecca Day (Prifysgol Bangor)
Crynodeb: Bydd y sesiwn hon yn ystyried gwahanol agweddau ar anabledd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar sut caiff yr heriau a wynebir gan blant ac oedolion gydag ystod o anableddau eu cydnabod, a'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod pawb yn cael ei gynnwys yn y system addysg a'r byd cyfrwng Cymraeg. Yn arbenigwyr mewn gwahanol feysydd ymchwil, caiff y siaradwyr eu huno gan ymrwymiad cyffredin i gyfathrebu a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb yn y byd addysg.
- Dydd Iau, 7 Awst, 2025
Iechyd
Gweithgareddau
- Archwiliwch y maes Gofal Iechyd gyda'n modelau efelychu a chymerwch ran mewn cyfres o weithgareddau rhyngweithiol
- Siaradwch â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd am eu profiadau yn y maes
Sgyrsiau, Paneli a Dangosiadau
Sgwrs: Sut mae Technoleg Uwchsain yn gallu pennu Systemau Llafariaid Siaradwyr Cymraeg y Gogledd a'r De
Amser: 11:00-11:30
Aelodau'r Sgwrs: Ffion Roberts
Crynodeb: Er bod gennym rywfaint o ddata acwstig ar lafariaid Cymraeg, nid oes unrhyw astudiaethau hyd yma wedi defnyddio uwchsain i archwilio'r ffordd y cânt eu ffurfio'n gorfforol. Mae uwchsain yn cipio symudiad amser real y tafod ac yn galluogi defnyddio bioadborth, gan gynnig dealltwriaeth newydd o sut caiff llafariaid eu cynhyrchu ar draws tafodieithoedd Cymru. Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno gwaith ymchwil sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, gan ddangos sut all technoleg fod o gymorth i fapio ynganiad a chefnogi dysgu'r iaith yn y dyfodol. Dewch draw a chymerwch ran yn ein gwaith casglu data er mwyn cyfrannu at y prosiect ymchwil cyffrous hwn.
Panel: ‘Dod a geiriau yn fyw yn y Gymraeg: ‘Mwy na Geiriau’ ar waith ym Mhrifysgol Wrecsam
Amser: 11:30-12.15
Cadeirydd y panel: Elen Mai Nefydd (Pennaeth Darpariaeth y Gymraeg), Sioned Roberts (Swyddog y Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr), Nesta Mccluskey (Cyfarwyddwr Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr), Awel Wynne Williams (Uwch Ddarlithydd Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Wrecsam), Ffion Roberts (Uwch Ddarlithydd Therapi Iaith a Lleferydd a Hyrwyddwr y Gymraeg mewn Iechyd ym Mhrifysgol Wrecsam),Llio Owen (Myfyrwraig Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Wrecsam)
- Dydd Gwener, 8 Awst, 2025
Peirianneg, Cyfrifiadura ac Uchelgais Gogledd Cymru
Gweithgareddau
- Cymerwch ran yn ein gweithgaredd STEM mewn bocs
- Rhowch gynnig ar ein gweithgaredd cathod robot
- Ewch ati'n ymarferol gyda'n gweithgaredd ystafell ddianc seiber
Sgyrsiau, Paneli a Dangosiadau
Panel: Y Ganolfan Peirianneg ac Opteg Menter - a'r cyfleoedd mae hyn yn eu creu i bobl ifanc Gogledd Cymru yn y sector Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel
Amser: 14:00-14:45
Aelodau'r Panel: Alwen Williams (Prif Weithredwr, Uchelgais Gogledd Cymru), Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf, Uchelgais Gogledd Cymru), Sian Lloyd Roberts (Rheolwr Rhaglen Sgiliau Rhanbarthol, Uchelgais Gogledd Cymru), Ethan Edwards (Darlithydd Peirianneg Reolaeth, Prifysgol Wrecsam) ac Arwel Staples (Cynghorydd Caffael, Prifysgol Wrecsam)
Crynodeb: Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam yn cydweithio i annog twf economaidd a chreu cyfleoedd gyrfa cyffrous sy'n ysbrydoli pobl ifanc i adeiladu eu dyfodol o fewn eu milltir sgwâr. Mae'r Ganolfan Fenter, Peirianneg ac Opteg newydd ar fin dod yn hwb hanfodol i sector Gweithgynhyrchu Uwch y rhanbarth - gan gefnogi cyflogwyr lleol a grymuso'r genhedlaeth nesaf â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Dysgwch sut mae'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a'r Portal Sgiliau Gogledd Cymru yn helpu i lunio gweithlu uchelgeisiol, medrus ar gyfer y dyfodol.
- Dydd Sadwrn, 9 Awst, 2025
Celf ac Ysgol Fusnes Gogledd Cymru
Gweithgareddau
- Gadewch i'ch syniadau ddod yn fyw gyda'n gweithgaredd arlunio creadigol
- Cymerwch ran yn ein gemau Carnifal, sy'n canolbwyntio ar gyfathrebu a gwaith tîm mewn busnes.
- Dewch draw i'r Arddangosfa Delweddu Ymchwil, sy'n arddangos y ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth Delweddu Ymchwil Prifysgol Wrecsam o'r pedair blynedd ddiwethaf
Dod o hyd i ble ti’n perthyn
Diwrnodau Agored sydd ar ddod.
Ymunwch â ni ar ddiwrnod agored sydd i ddod i gwrdd â'ch darlithwyr, darganfyddwch fwy am ein cyrsiau, darganfyddwch ein cyfleusterau a chael blas ar fywyd myfyriwr.
Porwch ein holl ddiwrnodau agored a digwyddiadau.