decorative

Anerchiad i’r Arglwydd Barry Jones

Pleser mawr yw cyflwyno’r Arglwydd Barry Jones ar gyfer Gwobr Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam ac i groesawu ef a’i wraig, y Foneddiges Janet Jones, hefyd yn Gymrawd er Anrhydedd, i’n seremoni heddiw.

Yr Arglwydd Barry Jones, y mae ei yrfa ddisglair wedi ymdrin â dros 50 mlynedd o ymrwymiad rhagorol i wasanaeth cyhoeddus.

Cafodd ei eni ar 26 Mehefin 1939, gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Ramadeg Penarlâg a Choleg Addysg Bangor. Penodwyd ef yn bennaeth Saesneg yn Ysgol Uwchradd Glannau Dyfrdwy, cyn iddo fynd yn ei flaen i fod yn llywydd Undeb Cenedlaethol Athrawon y Fflint. Hefyd, fe wasanaethodd am ddwy flynedd yng Nghatrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Roedd yr Arglwydd Jones yn Aelod Senedd dros Ddwyrain Sir y Fflint o 1970 i 1983. Bu’n is-ysgrifennydd gwladol seneddol dros Gymru o 1974 i 1979 ac fe ddaeth yn aelod o’r senedd dros Alyn a Glannau Dyfrdwy yn 1983. Yn 1994, cafodd ei benodi gan y Prif Weinidog yn aelod o’r Pwyllgor Deallusrwydd a Diogelwch a oedd yn newydd ar y pryd. Wedi cyfnod di-dor o dros 30 mlynedd, lle safodd mewn wyth etholiad cyffredinol, fe ymddeolodd Arglwydd Jones o’r Tŷ Cyffredin yn 2001 a’i wneud yn arglwydd am oes yn dwyn y teitl Barwn Jones, Glannau Dyfrdwy yn Sir Clwyd.  Ar ei ymddeoliad, a gan fyfyrio ar ei flynyddoedd fel aelod seneddol, nododd y bu sawl her ar hyd y ffordd a mynegodd: “Fel y dywedodd Mr Gladstone ... hyd yn oed pan feddyliwch eich bod wedi datrys y mater, mae pobl yn newid y cwestiwn”.
Bellach, yn 86 mlwydd oed, mae’n parhau’n aelod gweithredol o Dŷ’r Arglwyddi ac yn teithio i Lundain yn aml iawn i bleidleisio. Mae hefyd yn llywydd Cynghrair Mersi a Dyfrdwy ac yn eiriolwr pwerus dros ein pobl ifanc a’n cymunedau. 

Mae Arglwydd Jones wedi gwneud cyfraniad enfawr i dwf economaidd yn lleol. Roedd ar reng flaen datblygiad yr A55 drwy Ogledd Cymru, ynghyd â chreu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a Phont Sir y Fflint.

Ond, mae’n fwyaf adnabyddus ac yn cael ei gofio’n annwyl am ei angerdd a’i ymroddiad dros gynrychioli pobl Dwyrain Sir y Fflint, Alyn a Glannau Dyfrdwy, a Gogledd Cymru trwy gydol ei yrfa wleidyddol. O bosib caiff ei gofio orau am ei frwydr angerddol dros warchod swyddi creu dur ac am y rôl hanfodol a chwaraeodd wrth ddatblygu’r diwydiant awyrofod ym Mrychdyn.

Yma yn y Brifysgol, mae gennym berthynas arbennig iawn gydag Arglwydd Jones oherwydd fe benodwyd ef fel Llywydd cyntaf un o’n sefydliadau rhagflaenol - NEWI - yn 2007. Fel Llywydd, roedd yn dyngedfennol wrth i’r sefydliad dderbyn statws prifysgol ac fe ddaeth yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. 

Mae’n parhau’n gefnogwr ffyddlon ac yn eiriolwr pwerus dros y Brifysgol, a phleser mawr yw ei groesawu yma heddiw i dderbyn ein hanrhydedd uchaf. 
I gydnabod ei gefnogaeth o’r Brifysgol a’i ymroddiad cydol oes at wasanaethau cyhoeddus, rwy’n cyflwyno’r Arglwydd Barry Jones ar gyfer y Gymrodoriaeth er Anrhydedd.