Pleser mawr yw cyflwyno Prosiect Glowyr Wrecsam ar gyfer gwobr grŵp y Gymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam.

Ar 22ain Medi 1934, ychydig filltiroedd i’r gogledd o Wrecsam, digwyddodd Trychineb Pwll Glo Gresffordd, un o’r trychinebau cloddio mwyaf arwyddocaol yn hanes Prydain. 

Ar adeg y drychineb, Pwll Glo Gresffordd oedd un o’r pyllau glo mwyaf ei faint a mwyaf modern ym Mhrydain.  Roedd y Pwll yn cyflogi dros 1,000 o lowyr ac yn cael ei ystyried fel safle cymharol ddiogel. Fodd bynnag, ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, collodd 266 o lowyr eu bywydau yn dilyn ffrwydrad. Cafodd y digwyddiad effaith dorcalonnus ar y gymuned leol wrth i genhedlaeth gyfan o ddynion gael eu colli ac fe adawyd llawer iawn o deuluoedd heb ffynhonnell incwm na chefnogaeth.

Mae hanes ein prifysgol ynghlwm â hanes y gymuned gloddio.  Roedd glowyr yn rhan allweddol o’r gwaith cynnar o sefydlu’r Brifysgol, ac yn dilyn Trychineb y Pwll Glo, cyflwynwyd cyrsiau mewn Diogelwch Glofeydd i dros 400 o fyfyrwyr. Yn 1927, bu i rodd gan Gronfa Llesiant y Glowyr helpu i drawsnewid Ysgol Wyddoniaeth a Chelfyddydau Wrecsam yn Sefydliad Technegol Sir Ddinbych a’i ail-leoli ar Stryt yr Rhaglaw. Wedi’r holl flynyddoedd, fel Prifysgol Wrecsam, rydym yn parhau’n berchen ar yr Adeilad trawiadol ar Stryt y Rhaglaw.

Mae Prosiect Glowyr Wrecsam yn elusen leol ymroddedig sydd wedi’i hymrwymo i ddiogelu a dathlu treftadaeth gloddio helaeth Wrecsam. Wedi’i leoli yng Ngorsaf Achub y Glowyr, dafliad carreg o fan hyn, mae’r prosiect yn adfer ac yn ail-bwrpasu’r adeilad pwysig hwn i greu hwb cymunedol llewyrchus.

Wrth wraidd y prosiect mae datblygu Amgueddfa’r Glowyr, sy’n cynnig cipolwg pwerus ar fywyd y glowyr - eu dewrder, eu cadernid, a’u cyfeillgarwch. Mae’r amgueddfa’n talu teyrnged i’r 266 o ddynion a bechgyn a gollodd eu bywydau yn Nhrychineb Pwll Glo Gresffordd, gan sicrhau bod eu stori’n parhau i addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. 

Tu hwnt i ddiogelu treftadaeth, mae Prosiect Glowyr Wrecsam yn annog addysg, y celfyddydau, creadigrwydd ac ymgysylltiad cymunedol. Mae agweddau addysgol, celfyddydol a dysg y prosiect yn cryfhau cysylltiadau lleol a rhyngwladol, ac yn meithrin teimlad o falchder a pherthyn ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion o bob gallu neu sydd ag anghenion cymorth. 
 Cenhadaeth yr elusen yw anrhydeddu’r gorffennol wrth greu cyfleoedd ar gyfer y presennol a’r dyfodol - gan arddangos grym treftadaeth i uno, addysgu, ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. 

Bydd cam nesaf y gwaith adfer yn dechrau ym mis Mai, wrth i lety byw â chymorth arbenigol gael ei ddatblygu yn Nhŷ’r Arolygwyr a gaiff ei enwi’n Tŷ Humphrey i roi cydnabyddiaeth i ymdrech ymroddedig Humphrey Ker a Chlwb Pêl-droed Wrecsam i gyfrannu’n ariannol at y prosiect gan mai Prosiect Glowyr Wrecsam yw eu Helusen y Tymor.
Fel Prifysgol sydd â nod neilltuol o wrando, ymgysylltu a myfyrio ar beth sydd fwyaf pwysig i’n pobl, ein lleoedd a’n partneriaid, mae’n addas ein bod yn anrhydeddu’r sefydliad sy’n coffáu’r drychineb, safle’r drychineb yn hanes Cymru a’i gwaddol sydd wedi cyfrannu at yr ymdrechion parhaus i wella safonau diogelwch yn y diwydiant cloddio ledled y byd.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i aelodau o’r Prosiect Glowyr Wrecsam i’n seremoni heddiw, yn arbennig i Keith Hett - y glöwr olaf i gamu allanol o Bwll Y Bers pan gaeodd. Seibiant i gymeradwyo.

Nawr, hoffwn wahodd 
George Powell
Sharon Powell
John Gallanders
David Thompson
Michael Hett
Humphrey Ker

i ddod ymlaen i dderbyn y wobr. 

I gydnabod gwasanaethau i dreftadaeth, diwylliant a’r gymuned ehangach, rwy’n cyflwyno cynrychiolwyr o Brosiect Glowyr Wrecsam i dderbyn gwobr grŵp y Gymrodoriaeth er Anrhydedd.