Pleser mawr yw cyflwyno Rachel Clacher ar gyfer Gwobr Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam.

Yma ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn cael ein harwain gan ein gweledigaeth a’n strategaeth i fod yn brifysgol ddinesig fodern flaenllaw - wrth hynny, fe olygwn ein bod yn croesawu ein cyfrifoldeb i wasanaethu ein cymunedau drwy fod yn ysgogwyr o newid economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Gallaf feddwl am ychydig o bobl yn unig sy’n ymgorffori ein gwerthoedd a’n ethos yn well na Rachel Clacher, ac rydym ar ben ein digon ei bod hi’n ymuno â ni yma heddiw gyda Mair ei mam a’i merch, Nell.

Mae Rachel yn sefydlwraig o gymunedau pwerus sy’n arwain a dathlu twf, effaith, a chysylltiad, gan weithredu’n bwrpasol i sicrhau symudedd mewn cymdeithas. 
Cydsefydlodd Rachel gwmni MoneyPenny gyda’i brawd, Ed Reeves, yn 2000. Bellach, mae gan y cwmni weithlu o dros 1,300 mewn swyddfeydd ledled y DU a’r UD, ac yn falch o’r enw da rhyngwladol fel ‘y swyddfa hapusaf yn y wlad hon’. 

Yn 2014, defnyddiodd Rachel agwedd unigryw Moneypenny o ddatblygu pobl i greu carfan newydd sbon yn ein cymuned leol, yn bennaf i bobl ifanc nad ydynt yn ymgysylltu. Profodd y rhaglen gyntaf, a gafodd ei chynnal yn 2014, i fod yn llwyddiant ysgubol - gyda dros 70% o gyfranogwyr yn symud i addysg neu waith llawn amser - ac felly cafodd elusen o’r enw WeMindTheGap ei sefydlu. Heddiw, mae’r elusen honno yn gwasanaethu pobl ifanc Wrecsam, Sir y Fflint a Swydd Gaer gyda chyfres lawn o raglenni cyfannol sy’n newid dyfodol i bobl ifanc drwy gariad a gofal. Mae’r rhaglenni’n amrywio o raglen yn yr ysgol i annog pobl ifanc i ail-ymgysylltu â’r ysgol, i raglen ddigidol ar gyfer pobl ifanc sydd ar ben eu hunain yn eu llofftydd, yn ogystal â chynnig rhaglen gyflogaeth chwe mis lawn. Ar ôl derbyn CBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Frenhines yn 2019, dywedodd Rachel mai bwriad yr elusen oedd galluogi pobl ifanc i “drawsnewid o garcharorion amgylchiadau’ i fod yn ‘yrwyr eu bywydau eu hunain’.” Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu ffurfio partneriaeth â’r elusen anhygoel hon - er enghraifft, eleni, fe weithion ni ar y cyd ar y ‘Big Conversation’ diweddaraf i ddysgu’n uniongyrchol gan bobl ifanc oed 18-21 am eu bywydau a beth fyddai’n ei wella. Mae’r adroddiad a gynhyrchwyd bellach yn gosod y trywydd o ran sut mae partneriaid cenedlaethol fel y Loteri Fawr yn gweithio â phobl ifanc. 

Yn 2019, cafodd bywyd Rachel ei droi ben i waered yn dilyn marwolaeth sydyn ei merch ganol, Josie. Cafodd hyn ei ddilyn yn fuan gan ynysu o ganlyniad i Covid. Rhoddodd y digwyddiadau cydamserol hyn ystyr newydd i’r dywediad ‘derbyn beth na allwn ei newid a newid beth na allwn ei dderbyn’, i Rachel, a chred gryfach yn yr angen i weithredu caredigrwydd dynol a chysylltiadau cadarnhaol gyda’r bobl a’r sefydliadau sy’n siapio ein bywydau dydd i ddydd.  

Mae’r gred honno wedi’i harwain at ei dewrder gydag WeMindTheGap a mentrau newydd a chyffrous sy’n ymwneud â meithrin cymunedau:

Mae WhatWeAllAgreeOn yn gymuned sydd wedi’i chreu ar y cyd i gefnogi a helpu busnesau entrepreneuraidd sy’n datrys problemau cymdeithasol, i ehangu. Ers ei sefydlu llynedd, mae eisoes wedi cael effaith arwyddocaol ar allu nifer o fusnesau cenedlaethol pwerus i dyfu a dangos eu henillion cymdeithasol. 

Yn ei rôl ddiweddaraf fel Cadeirydd bwrdd Dinas Wrecsam, mae Rachel yn defnyddio pŵer cymunedol i feithrin dyfodol newydd ac uchelgeisiau mentrus sy’n gwneud y mwyaf o broffil newydd gwych a rhyngwladol ein dinas. Mae hi wir yn credu y gall Wrecsam fod y ddinas orau yn y byd i lewyrchu ynddi, ac mae’n meithrin cydweithrediad radical dinas gyfan gyda’r arweinwyr, talent a’r egni newydd - ac wrth gwrs, mae’r brifysgol yn hanfodol i hynny - sydd yn hynod swmpus yma i wneud i bethau da ddigwydd i ddyfodol pob un ohonom.

Braint ddiffuant yw cyflwyno Rachel Clacher ar gyfer ein gwobr Cymrawd er Anrhydedd uchaf, mewn cydnabyddiaeth o wasanaethau i fusnesau a’r gymuned ehangach.