.jpg)
Datganiad hygyrchedd ar gyfer Darganfod Adnoddau
Mae’r Datganiad Hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r Darganfod Adnoddau, catalog llyfrgell Prifysgol Wrecsam. Mae'r catalog llyfrgell yn cael ei ddarparu gan ExLibris, a 'Primo' yw enw'r cynnyrch.
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau'r cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo'r dudalen hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenwr sgrin.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:
- nid oes gan rai ffocws bysellfwrdd ddigon o gyferbyniad yn erbyn lliw'r cefndir
- nid oes yna opsiwn cynhenid i newid y lliwiau, ffont, neu faint y testun
- nid oes yna opsiwn cynhenid i newid uchder y llinell neu’r bylchau rhwng testun
- nid ydym wedi profi llywio drwy adnabod llais
Ceir rhagor o wybodaeth yn y ddogfen Primo VE accessibility.
Beth i’w wneud os na allwch gael yr hawl i rannau o'r wefan hon?
Os hoffech y wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol (megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille), anfonwch neges i Learning.Resources@wrexham.ac.uk
Byddwn yn ystyried eich cais cyn gynted â phosibl.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan
Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os nad ydym yn bodloni eich gofynion hygyrchedd, cysylltwch ag: Learning.Resources@wrexham.ac.uk
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cynnwys anhygyrch
Pwerir Darganfod Adnoddau gan ExLibris Primo.. Mae Primo yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys WAI Web 2.1 lefel AA. Ceir rhagor o wybodaeth fanwl yn ExLibris accessibility information for Primo VE.
Cynnwys sydd ddim o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Cynnwys trydydd parti
Mae Darganfod Adnoddau'n darparu'r hawl i gasgliadau Prifysgol Wrecsam o eGyfnodolion, eLyfrau ac adnoddau ar-lein eraill. Mae'r rhain yn cael eu darparu gan gyhoeddwyr a gwerthwyr trydydd parti a'u cyflwyno ar eu llwyfannau. Nid oes gennym reolaeth dros hygyrchedd y cynnwys hwn nac yn gyfrifol amdano, ond rydym yn ymdrechu'n galed i weithio gyda'r trydydd parti i wella ei hygyrchedd. Gall defnyddwyr gael yr hawl i ddatganiadau hygyrchedd trydydd parti drwy ddefnyddio'r gwasanaeth searchBOX Finder sy'n rhad ac am ddim.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 17 Ionawr 2024.