_11zon.jpg)
Llais Myfyrwyr
Pam mae eich adborth yn bwysig
Ym Mhrifysgol Wrecsam, mae eich llais yn hanfodol. Mae persbectif unigryw pob myfyriwr yn cyfoethogi ein cymuned ac yn ysgogi newid cadarnhaol. Mae eich mewnwelediadau a'ch awgrymiadau gwerthfawr yn chwarae rhan arwyddocaol wrth arwain ein gwelliannau, gan effeithio'n gadarnhaol ar ein cyrsiau a'n gwasanaethau.
Isod mae rhai o'r newidiadau sydd wedi'u hysbrydoli gan yr hyn a ddywedasoch wrthym

Opsiynau iachach yn y ffreutur
Dywedoch Chi:
Roeddech chi eisiau opsiynau iachach fod ar gael yn y ffreutur
Gwnaethom Ni:
Sicrhau bod opsiynau bwyd iachach ar gael yn y ffreutur, ynghyd â bargeinion prydau bwyd a chynigion arbennig.

Ddwy seremoni raddio y flwyddyn
Dywedoch Chi:
Roeddech chi eisiau ddwy seremoni raddio y flwyddyn
Gwnaethom Ni:
Gyflwyno seremoni raddio ychwanegol bob blwyddyn. Rydym bellach yn cynnal dwy seremoni raddio y flwyddyn yn ystod y Pasg a mis Hydref.

Roeddech chi eisiau i raddio fod yn fwy hygyrch.
Dywedoch Chi:
Roeddech chi eisiau i raddio fod yn fwy hygyrch
Gwnaethom Ni:
Ddatblygu cynllun hygyrchedd i gyflawni gwelliannau ar unwaith a nodi camau gweithredu yn y dyfodol.

Fynediad i fwy o e-lyfrau
Dywedoch Chi:
Roeddech chi eisiau am fynediad i fwy o e-lyfrau
Gwnaethom Ni:
Rydym wedi ehangu ein casgliad i dros 790,000 trwy e-faterion ProQuest gan gynyddu o 180,000 gyda thanysgrifiad gwell. Mae'r casgliad hwn yn cwmpasu pob maes pwnc, yn cynnwys teitlau gan gyhoeddwyr academaidd cydnabyddedig, ac yn cynnig ystod o nodweddion hygyrchedd.

Mannau astudio
Dywedoch Chi:
Roeddech chi eisiau mannau astudio tawel yn y llyfrgell
Gwnaethom Ni:
Mae gwaith adnewyddu diweddar ar lawr cyntaf y llyfrgell bellach yn cynnwys codennau astudio unigol a grwpiau bach.

Cyflogaeth a astudio pellach.
Dywedoch Chi:
Mae angen mwy o gymorth arnom i sicrhau cyflogaeth a chyfleoedd astudio pellach
Gwnaethom Ni:
Fe wnaethom gyflwyno dros 800 o weithdai wedi’u teilwra a sesiynau hyfforddi gyrfa un-i-un, gan helpu myfyrwyr i fagu hyder a sicrhau cyflogaeth neu symud i astudiaeth bellach.

Cysylltiadau gyda chyflogwyr
Dywedoch Chi:
Rydym eisiau gwell cysylltiadau gyda chyflogwyr
Gwnaethom Ni:
Fe wnaethom gynnal dros 40 o ffeiriau a digwyddiadau gyrfaoedd, gan greu cyfleoedd i filoedd o fyfyrwyr gwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Profiad byd go iawn
Dywedoch Chi:
Mae angen cyfleoedd profiad byd go iawn arnom
Gwnaethom Ni:
Fe wnaethom hyrwyddo dros 8,000 o gyfleoedd profiad gwaith cyflogedig a di-dâl gan gynnwys interniaethau a lleoliadau gwaith ar draws sectorau amrywiol, gan roi profiad ymarferol i fyfyrwyr a hybu eu CVs.

Ddatblygu Cymraeg
Dywedoch Chi:
Roeddech chi eisiau cyfleoedd ehangach i ddatblygu Cymraeg
Gwnaethom Ni:
Er mwyn diwallu’r angen hwn, fe wnaethom recriwtio aelod newydd o staff i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg. Fe wnaethom hefyd gyflwyno modiwlau sgiliau Cymraeg wedi'u teilwra ar gyfer rhaglenni Gwaith Cymdeithasol ac Iechyd Perthynol.

Offer digidol
Dywedoch Chi:
Mae angen offer digidol arnom ar gyfer hyblygrwydd
Gwnaethom Ni:
Fe wnaethom gryfhau'r platfform gyrfaoedd ar-lein, gan gynnig apwyntiadau rhithwir, byrddau swyddi, ac adolygiadau CV wedi'u pweru gan AI, gan wneud cymorth gyrfa yn hygyrch unrhyw bryd.

Buddsoddiad WiFi
Dywedoch Chi:
Rydych chi eisiau gwell wifi ar y campws
Gwnaethom ni:
Gwella'n sylweddol ein rhwydwaith WIFI ar gampws Plas Coch, gan hybu perfformiad i'r holl ddefnyddwyr, gan alluogi amgylchedd addysgu a dysgu gwell.

Rhannu heddiw,Ffurfiwch yfory
Mae eich adborth wedi ysgogi newidiadau ystyrlon ym Mhrifysgol Wrecsam eleni. Gwyliwch y fideo isod i weld sut mae eich mewnbwn wedi helpu i lunio profiad myfyriwr gwell.