decorative

cyn-lluoedd arfog

Ym Mhrifysgol Glyndŵr, rydym yn werthfawr iawn o'r sgiliau a phrofiadau mae ymadawyr gwasanaethol yn dod i'r Brifysgol.

Gallem ni roi cymorth ac arweiniad addas i chi er mwyn sicrhau fod eich trawsnewid i Addysg Uwch - a bywyd dinesydd - yn un hawdd.

Fel cyn-personél y lluoedd arfog, rydym yn cydnabod gall eich cefndir fod yn eithaf gwahanol i hynny o ymadawyr ysgol sy'n dod i'r brifysgol drwy lwybr traddodiadol yn 18 oed.

Mae anghenion mynediad yn amrywio rhwng cyrsiau a tra byddem yn cysidro unrhyw gymhwyster ffurfiol sydd gennych chi, rydym yn deall rydych yn debygol o fod wedi derbyn amrywiaeth llydan o sgiliau trosglwyddadwy yn ystod eich gyrfa yn y lluoedd sydd yn dal i fod yn werthfawr iawn yn y byd sifil.

Ym Mhrifysgol Glyndŵr asesir pob ymgeisydd ar deilyngdod unigol, felly byddem bob tro yn edrych ar sgiliau a phrofiad perthnasol wrth gysidro eich cais, Bydd eich datganiad personol hefyd yn rhoi'r cyfle i chi amlygu sut bydd eich profiadau yn werthfawr i'ch astudiaethau ac arddangos eich parodrwydd a brwdfrydedd i ennill eich gradd a bod yn rhan o'r brifysgol.

Construction student Craig Roberts

“Rwy'n cofio pasio'r brifysgol un diwrnod a gweld hysbyseb am ddiwrnod agored. Gan fy mod yn fy mhedwardegau, roeddwn i'n meddwl bod unrhyw gyfle i fynd i'r brifysgol wedi mynd heibio i mi, ond es i ymlaen a chefais fy nghroesawu ac yn gyffyrddus o'r cychwyn cyntaf. Mae'n rhaid i chi wneud aberthau i wneud gradd a chael swydd ar yr un pryd, ond mae hyblygrwydd y cwrs yma yn gweithio i mi mewn gwirionedd ac nid yw wedi fy nal yn ôl. Os rhywbeth, mae wedi fy ngwthio ymhellach ac wedi rhoi cyfleoedd”

Craig Roberts Rheoli adeiladu

Llwybrau mynediad

Yn dibynnu ar eich sefyllfa a'r cwrs rydych eisiau astudio, efallai byddech eisiau cysidro edrych ar lwybrau mynediad gwahanol, fel cwrs Mynediad Addysg Uwch neu un o'n graddau blwyddyn sylfaenol.

Gallwch astudio'r diploma Mynediad mewn colegau ar draws y DU, mewn amryw ardal bynciol. Fel arfer, gallwch astudio'r Diploma yn llawn-amser dros flwyddyn neu'n rhan-amser dros ddwy flynedd.

Os oes gennych cymwysterau anhraddodiadol, eisiau astudio pwnc sy'n newydd i chi neu os ydych wedi bod allan o addysg am ychydig ac eisiau dychwelyd, bydd blwyddyn Sylfaenol yn rhoi'r cyfle i chi fynd ymlaen i radd anrhydeddol lawn. Fel arfer, mae ein rhaglenni sylfaenol yn bedwar blynedd o hyd, yn caniatáu blwyddyn ychwanegol i ennill sgiliau a gwybodaeth byddwch angen ar gyfer astudio ar lefel graddol.

Os nad ydych yn siŵr pa lwybr fydd orau i yn eich cyfnod cyfredol, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm ymholiadau a all drafod gyda chi am eich opsiynau. Os nad oes gennym ni opsiwn blwyddyn sylfaenol addas, yna byddem yn eich cyfeirio chi tuag at goleg lleol a gadael i chi wybod pa gyrsiau Mynediad fyddai'r orau i chi.

Cyllido eich astudiaethau

Os ydych yn dychwelyd yn ôl i addysg, efallai byddwch chi dal yn medru gwneud cais am gyllid myfyriwr, mewn ffurf o fenthyciad myfyriwr. Bydd faint ydych yn derbyn yn dibynnu ar eich sefyllfa deuluol a'r fath o gwrs ydych eisiau astudio. Efallai gallwch chi dderbyn cymorth ychwanegol os oes gennych chi blant. Am fwy o wybodaeth, ewch i ein tudalennau

ELCAS

Fel ymadawyr gwasanaethol efallai byddech â hawl i gyllid o dan y Gwasanaeth Gweinyddiaeth Credydau Dysgu Ehangach (GGCDE/ELCAS). Mae'r cynllun yma wedi'i gefnogi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae'n annog dysgu drwy oes ymysg aelodau cyfredol a chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog, ac mae wedi'i datblygu er mwyn cefnogi chi gyda'r gost o ddysgu lefel uwch drwy roi cefnogaeth ariannol unwaith ymlaen llaw bob blwyddyn, am hyd at dair blynedd. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar wefan ELCAS.