Llywodraethu Gwybodaeth
Mae Llywodraethu Gwybodaeth yn darparu'r fframwaith i ddod â'r holl reolau cyfreithiol, canllawiau ac arfer gorausy'n berthnasol i drin gwybodaeth ac yn sicrhau bod risgiau gwybodaeth yn cael eu lleihau. Mae diogelu data yn un rhan o lywodraethu gwybodaeth ac am faterion sy'n ymwneud â diogelu data, mae gan y Brifysgol Swyddog Diogelu Data.
Mae gan Lywodraethu Gwybodaeth dair prif egwyddor: cyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd. Dylai'r holl staff ymgyfarwyddo â chrynodeb GDPR ac egwyddorion GDPR, a chodi ymwybyddiaeth o'r newidiadau yn eich tîm. Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru gyda chyngor ac arweiniad pellach, os hoffech chi weld mwy o wybodaeth ar bwnc IG penodol, cysylltwch â dpo@glyndwr.ac.uk