Academyddion y Brifysgol i lansio profiad Minecraft rhyngweithiol a pheiriant amser yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Dyddiad: Dydd Mercher, Gorffennaf 30, 2025

Caiff plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni y cyfle i ddarganfod yr ŵyl ddiwylliannol Gymraeg eiconig mewn ffordd gwbl newydd – o fewn byd Minecraft.

Mae academyddion cyfrifiadura o Brifysgol Wrecsam wedi cydweithio i greu llwyfan Minecraft trochol sy’n caniatáu i bobl ifanc brofi’r Eisteddfod mewn amgylchedd rhithiol.

Wedi’i ddylunio i adlewyrchu ysbryd a thirnodau’r digwyddiad, bydd y pentref digidol yn rhoi cyfle i blant archwilio diwylliant, iaith, creadigrwydd a cherddoriaeth Gymraeg drwy gyfrwng y maent eisoes yn ei adnabod a’i garu. Gallant hefyd ychwanegu eu gweithgareddau a’u tirnodau eu hunain i’r safle.

Rhan o ymgyrch ehangach i wella cynhwysiant digidol yw’r fenter hon, i sicrhau bod plant o bob cefndir – gan gynnwys y rhai na allant fynychu’r ŵyl yn gorfforol – yn gallu bod yn rhan o’r dathliadau.

I ychwanegu at y profiad, bydd peiriant amser yn cael ei arddangos ar safle’r Eisteddfod – a grëwyd gan aelodau Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam mewn cydweithrediad â'r adran Beirianneg, lle all mynychwyr o bob oedran gofnodi eu rhagfynegiadau ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg. Caiff y negeseuon hyn eu storio’n ddigidol ac fe ail-ymwelir â hwy mewn blynyddoedd i ddod, gan greu archif byw o obeithion ac uchelgeisiau ar gyfer dyfodol yr iaith.

Mae’r peiriant amser wedi’i greu mor gynaliadwy ag y bo modd, yn cynnwys ystod o fotymau, gwyntyllau a disgiau wedi’u hail-gylchu, a ddaeth o hen adran Beirianneg y Brifysgol, sydd ar hyn o bryd yn cael ei dymchwel er mwyn gwneud lle ar gyfer cyfleusterau newydd.

Bydd y peiriant amser hefyd yn cyd-fynd â digwyddiad cloi’r Eisteddfod Genedlaethol ar y prif lwyfan ddydd Sadwrn olaf yr ŵyl am 10.30pm, lle cynhelir profiad dramatig, lliwgar a chreadigol – wedi’i ysbrydoli gan y nofel Gymraeg ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – mewn sioe i ddod â’r ŵyl i ben.

Dywedodd Dr. Shafiul Monir, Deon Cyswllt Rhyngwladol a Phartneriaethau Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadura a Pheirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam: “Roeddem yn awyddus i greu llwyfan, sydd nid yn unig yn dangos bwrlwm yr Eisteddfod, ond hefyd yn hyrwyddo sgiliau digidol a mynediad i bobl ifanc. Mae Minecraft yn adnodd creadigol, pwerus, ac wrth ei ddefnyddio i ddathlu diwylliant Cymru, rydym yn creu cymunedau rhithiol a diwylliannol.

“Trwy ddefnyddio gêm hynod gyfarwydd a hygyrch fel Minecraft, mae’r prosiect yn pontio’r bwlch rhwng traddodiad a thechnoleg, gan wneud diwylliant Cymru yn fwy difyr a chyfeillgar ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

“Mae’r peiriant amser yn ffordd wych i sicrhau gwaddol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, gan ei fod yn annog pobl o bob oed i edrych ymlaen ac ystyried dyfodol yr iaith Gymraeg.

“Rydym yn falch o ddweud pan fydd yr Eisteddfod wedi dod i ben, bydd y peiriant amser yn cael ei osod y tu allan i’n Hadeilad Diwydiannau Creadigol ar ein campws Wrecsam, a byddwn yn annog myfyrwyr i gymryd rhan, gan ddod draw a nodi eu gobeithion am ddyfodol yr iaith.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod rhai o aelodau arbennig ein tîm, sydd wedi gweithio’n ddiflino ar y ddwy fenter. Ar gyfer Minecraft, hoffwn enwi’r darlithwyr, Matthew McDonald-Dick, Rachel Rowley, Daniella Povey a Teri Birch o’n tîm Cyfrifiadura a Gemau. Ac ar gyfer y peiriant amser – diolch arbennig i’r prif gerflunydd, Robin Connelly o’n Hysgol Gelf. Mae wirioneddol wedi bod yn waith tîm.”

Ychwanegodd Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu’r Gymraeg yn y Brifysgol – sydd hefyd yn Is-gadeirydd Diwylliant Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025: “Mae’r gêm Minecraft a’r peiriant amser iaith Gymraeg yn enghreifftiau gwych o sut all arloesedd digidol gefnogi’r Gymraeg a hyrwyddo cynhwysiant.

“Mae wedi bod yn hynod ysbrydoledig i weld staff o wahanol ddisgyblaethau ledled y Brifysgol yn dod ynghyd gyda phwrpas cyffredin – i wneud yr Eisteddfod yn fwy difyr a hygyrch i fwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd.

“Nid yn unig mae’r prosiectau arbennig hyn yn pwysleisio rôl y pynciau STEAM mewn ymgysylltu diwylliannol ond maent hefyd yn cefnogi cyfraniad ein prifysgol at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn gadael gwaddol hir dymor i ni yn y brifysgol.

“Hoffwn ddiolch i’n tîm arbennig o academyddion, sydd wedi llwyr groesawu ac wedi bod ynghlwm â pharatoadau’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn cyflwyno profiadau difyr iawn i ymwelwyr o bob oedran. Allwn ni ddim aros i’r ŵyl fynd rhagddi!”

  • I grwydro pentref Minecraft yr Eisteddfod gan Brifysgol Wrecsam – sydd bellach ar gael ar y gêm, chwiliwch am: Enw’r Gweinydd: Eisteddfod; Cyfeiriad IP: 198.244.179.144; Porth: 2117