Actor Baby Reindeer a anwyd yn Wrecsam yn derbyn gwobr Cymrawd Er Anrhydedd

Date: Dydd Gwener, Mai 31, 2024

Roedd yr achlysur hwn yn cwblhau cylch gyrfa’r actor Mark Lewis Jones, pan gamodd ar lwyfan Neuadd William Aston i dderbyn ei wobr Cymrawd Er Anrhydedd gan Brifysgol Wrecsam, am ei wasanaethau i fyd theatr a’r celfyddydau perfformio.

Mae hynny oherwydd, y tro diwethaf iddo ymddangos yno, roedd yn troedio’r llwyfan mewn cynhyrchiad theatr ieuenctid o Vincent Van Gogh, dros 40 mlynedd yn ôl.

Wedi’i eni ym 1964 yn Rhosllannerchrugog, ble mae ei deulu’n dal i fyw, mynychodd Mark Ysgol y Rhos ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam – a’r ysgol uwchradd a roddodd y sylfaen iddo, diolch i’w athrawes ddrama, Gwawr Mason, a’i hanogodd i berfformio yn nrama’r ysgol pan oedd yn 16 oed.

Ymunodd â Theatr Ieuenctid Clwyd, cyn mynd ymlaen i hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan raddio yno ym 1986. 

Mae ei yrfa ddisglair wedi rhychwantu gwaith actio ar y llwyfan gyda’r Cwmni Shakespeare Brenhinol ac yn Theatr y Globe yn Llundain, yn ogystal â rolau ar y teledu, ac mewn ffilmiau ysgubol enfawr. 

Mae rhestr Mark o’i waith ym myd teledu a ffilm yn helaeth – yn amrywio o Star Wars, Game of Thrones, Keeping Faith, The Crown, Chernobyl, Stella, i un o’r cyfresi sydd wedi denu’r sylw mwyaf eleni, Baby Reindeer – lle mae’n chwarae rôl tad Donny, sef Gerald.

Gan siarad am gael ei enwi fel Cymrawd er Anrhydedd, dywedodd Mark: “Mi gefais fy ngeni a’m magu yn Rhosllannerchrugog, felly mae cael derbyn gwobr Cymrawd Er Anrhydedd gan Brifysgol Wrecsam yn rhywbeth arbennig iawn, mae’n hyfryd a dweud y gwir, ac yn golygu llawer iawn i mi.

“Flynyddoedd lawer yn ôl, mi ddychwelais i’n ôl adref i Ros, ac roeddwn i allan yn cael gwydraid gyda bachgen yr oeddwn i’n ei adnabod o’r pentref, oedd yn gwneud yn dda gyda’i rygbi – fel yr oedd fy ngyrfa actio i’n cychwyn. Ac mi ddywedodd o wrtha i, ‘mae o’n anhygoel – mae’r ddau ohonon ni’n dod o Ros, ac rydyn ni’n gwneud enw i ni’n hunain’ – ac mi ddywedais i’n syth: ‘y rheswm am hynny ydi ein bod ni’n dod o Ros.

“Dwi eisiau i bobl ifanc lleol sylweddoli nad ydi eich gwreiddiau chi’n eich dal chi’n ôl – os oes digon o fynd ynddoch chi, a bod gennych chi’r awydd i wneud rhywbeth, dyna beth sy’n bwysig.

“Y diweddar Gwawr Mason, fy athrawes ddrama ragorol yn yr ysgol uwchradd, sydd i’w diolch am agor y drws i mi i fyd actio. Mewn gwirionedd, yn ystod fy arddegau, doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud efo fy mywyd. Saer oedd fy nhad – ac mi ddilynodd fy nau frawd yr un trywydd, ond roeddwn i’n gwybod yn iawn nad dyna oedd y peth i mi.

“Doeddwn i ddim wedi dangos unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn actio cyn hynny – doedd neb yn fy nheulu wedi mynd i fyd y celfyddydau, felly mi oedd o’n sicr yn rhywbeth annisgwyl i bawb, ond unwaith y gofynnodd hi i mi berfformio yn y sioe honno, dyna ni – mi newidiodd fy mywyd o hynny ymlaen.

“Roedd hi’n rhywun gwirioneddol arbennig, mi fydda’ i wastad yn ddiolchgar am ei hanogaeth a’i dylanwad. Mae o wirioneddol yn dangos pŵer addysg, ond hefyd pŵer yr athrawon a’r darlithwyr hynny, sy’n gweld rhywbeth mewn rhywun ifanc ac yn rhoi’r hyder iddyn nhw wthio eu hunain ymlaen mewn bywyd.”

Yn ystod ei araith yn y seremoni, rhoddodd Mark addewid i gynnal y berthynas arbennig gyda’r Brifysgol.

Meddai: “Rwyf mor ddiolchgar i’r brifysgol hon, y brifysgol ifanc hon yr wyf yn rhan o’i theulu, a gallaf eich sicrhau heddiw, y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu’r brifysgol a bod yn rhan ohoni weddill fy oes.”

Yn ogystal â Mark, roedd y Brifysgol wedi cyflwyno Cymrodoriaethau Er Anrhydedd i bedwar unigolyn arall yr wythnos hon:

  • Y cerddor, Andrew Scott, am ei wasanaethau i Glwb Pêl-droed Wrecsam a’r gymuned ehangach.
  • Sylfaenydd Zip World, Sean Taylor, am ei wasanaethau i dwristiaeth, treftadaeth a diwylliant Cymru.
  • Yr Athro John Moses, am ei wasanaethau i fyd gwyddoniaeth.
  • Cyd-sylfaenydd Focus Wales, Neal Thompson, am ei wasanaethau i’r Brifysgol, Wrecsam a’r economi leol.
  • Yr academydd a’r cyn-fyfyriwr, Jon Laughton, am ei wasanaethau i’r Brifysgol.

Mae’r Brifysgol yn rhoi Cymrodoriaethau Er Anrhydedd i unigolion mewn cydnabyddiaeth o’u hymrwymiad sylweddol i’r Brifysgol a’r gymuned ehangach.

Gan gyfarch y llu o ddarpar-raddedigion wrth dderbyn ei Gymrodoriaeth yr wythnos hon, dywedodd Andrew Scott, sy’n fwyaf adnabyddus fel prif gitarydd a llais cefndir y band roc hudolus Sweet: “Fel brodor o Wrecsam, a anwyd ym Maesydre ac a fagwyd yn Acton, cyn mynd ymlaen wedyn a gadael y nyth, mae yna air, sef ‘hiraeth’, a dyna beth dwi’n ei gario gyda mi ar hyd a lled y byd.

“Mae’n rhaid i mi ddweud bod dod yn ôl i Wrecsam wedi bod yn ffantastig, a’r cwbl y medra’ i ei ddweud ydi, os fedra’ i wneud beth dwi wedi’i wneud, mi fedrwch chi wneud beth bynnag rydych chi eisiau ei wneud. Dim rhywbeth sydd ar glawr yn barod ydi o, chi ydi awdur eich dyfodol eich hun.”