Agoriad swyddogol ardal gydweithredol yn Ysgol Gelf Wrecsam
Date: 13 Tachwedd 2023
Mae Ysgol Gelf Wrecsam, ar y cyd â thîm Entrepreneuriaeth Prifysgol Wrecsam, wedi cyhoeddi menter arloesol newydd sy’n anelu at roi hwb i yrfaoedd graddedigion diweddar y celfyddydau.
Mae'r prosiect - sy’n dwyn yr enw ‘Shed Space’ - yn cynnwys casgliad o wyth ‘sied’ unigol sy’n cynnig lle pwrpasol i raddedigion y celfyddydau o Brifysgol Wrecsam i ddatblygu eu busnesau, gyda chostau rhentu sylweddol is na mannau masnachol traddodiadol. Ar ben hynny, mae’n cynnig hwb gwaith creadigol mewn cymuned fywiog a chydweithredol.
Daeth staff, myfyrwyr a selogion lleol y celfyddydau ynghyd fel rhan o agoriad swyddogol yr ardal arloesol yn Stryt y Rhaglaw, lle cafodd denantiaid y ‘siediau’ gyfle i arddangos eu gwaith, yn cynnwys darluniau, ffotograffiaeth, a dyluniadau graffig.
Roedd Steve Jarvis, Prif Ddarlithydd mewn Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Wrecsam, yn gyfrifol am hwyluso’r fenter, a ariannwyd gan yr YES Project, menter gan Lywodraeth Cymru, drwy adran Fenter y Brifysgol. Chwaraeodd yr adran ran allweddol yn cefnogi’r prosiect a bydd yn cynnal presenoldeb rheolaidd yn y ‘Shed Space’ er mwyn cynnig arweiniad a chyngor.
Yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam, a agorodd y ‘Shed Space’ yn swyddogol.
O'r chwith i'r dde: Laura Gough, Jack Turley, Sasha Kenny, Maria Hinfelaar, Steve Jarvis.
Dywedodd: “Rwy’n hynod falch o weld y mannau hyn, sy’n cynnig lle i’n graddedigion y celfyddydau creadigol ddechrau eu gyrfaoedd cyffrous. Mae nifer o’n graddedigion y celfyddydau yn breuddwydio am agor eu busnesau eu hunain ac maen nhw'n bobl hynod ddawnus.
Yma yn ‘Shed Space’ y byddant yn gallu gwireddu eu breuddwydion, gan weithio mewn amgylchedd ochr yn ochr ag artistiaid o’r un anian a lle allant ddatblygu’n broffesiynol, cwrdd â chleientiaid, datblygu syniadau newydd a llawer mwy.”
“Mae'r fenter hon yn cyd-fynd yn berffaith â diwylliant a strategaeth Prifysgol Wrecsam, lle’r ydym yn cynnig ystod eang o raglenni arbenigol gyda ffocws cryf ar gyflogadwyedd a menter.”
Ychwanegodd Laura Gough, Pennaeth Menter yn y Brifysgol: “Gwych yw gweld y weledigaeth yn cael ei gwireddu. Mae pob sied bron iawn yn barod ar gyfer busnesau graddedigion.”
Mae’r wyth sied i gyd wedi’u sicrhau gan entrepreneuriaid artistig sydd wedi’u neilltuo â’u hardal eu hunain, gyda'r rhyddid i’w haddurno a'i steilio yn unol â’u gweledigaeth unigryw.
Dyma dudalennau Instagram yr artistiaid sydd eisoes yn defnyddio ‘Shed Space’:
- Hannah Zervas – @hannahzervas
- Alice Roberts - @bluarcs
- Dannie Haggar - @art_and_danniella
- Craig Garside - @c.g_creative
- Adam Skinner - @bold_as_
- Olivia Horner - @livletink
- James Burley - @jamesburleyillustrator
- Rhi Moxon - @rhimoxon
Dywedodd Sasha Kenney, Cydlynydd Entrepreneuriaeth, fod cyhoeddi'r fenter yn dipyn o achlysur i’r sefydliad, ac yn bwysicach fyth, i’r bobl ifanc greadigol, sy’n gallu gweithio a chydweithio yn yr ardal hon wrth iddynt gamu ar eu teithiau entrepreneuraidd.
Dywedodd: “Rydym wedi gwirioni y gallwn gefnogi ein myfyrwyr, er mwyn iddynt ddysgu, cydweithredu a thyfu, wrth iddynt drosi eu syniadau yn fusnesau dichonadwy.”
Fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i greu graddedigion sy’n barod ar gyfer busnesau, mae Ysgol Gelf Wrecsam yn hyderus y bydd y fenter ddiweddaraf hon yn parhau i annog entrepreneuriaeth a chreu hwb bywiog yn y gymuned lle all artistiaid rannu eu syniadau a’u doniau.