Ail efelychiad dysgu Diwrnod Safle Trosedd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Cynhaliwyd efelychiad dysgu Diwrnod Safle Trosedd am yr ail dro ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam - gan ddod â myfyrwyr a darlithwyr o sawl ran o’r sefydliad ynghyd.
Trefnwyd digwyddiad eleni’n dilyn llwyddiant efelychiad tebyg yn 2019, gyda myfyrwyr Theatr, Teledu a Pherfformiad yn efelychu gwrthdrawiad mewn gêm badminton yn Neuadd chwaraeon y brifysgol. Trodd y digwyddiad, a welwyd gan fyfyrwyr Seicoleg a Throseddeg, yn fwy difrifol wrth i wyliedydd cael ei hanafu gan hylif anhysbys - a pherson arall cael ei herwgipio.
Dywedodd y darlithydd Plismona Andrew Crawford, un o drefnwyr y digwyddiad: "Y syniad tu ôl i’n Diwrnod Safle Trosedd blynyddol yw ei fod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ar draws ystod o'n cyrsiau brofi eu sgiliau mewn amgylchedd cyflym a realistig - gyda llawer yn cael y cyfle i gydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y gyrfaoedd sy'n cyfateb i'w gradd.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am ein helpu heddiw. Mae eu cefnogaeth yn gwneud y diwrnod cyfan yn fwy realistig i'r myfyrwyr."
Wrth i'r digwyddiad fynd yn ei blaen, adroddodd tîm diogelwch Glyndŵr i ddefnyddio gweithdrefn a baratowyd ymlaen llaw - gan sbarduno ymateb gan y gwasanaethau brys i fynychu damweiniau ac i ymchwilio i'r drosedd.
Roedd myfyrwyr ar gyrsiau Plismona ac Ymarfer Clinigol Uwch y brifysgol - ynghyd â’r gwasanaethau brys - yn ymchwilio i'r troseddau.
Cafodd rhai o'r 'drwgdybiedigion’ damwain car wrth iddyn nhw ffoi - a chafodd ei lwyfannu ar y campws ac yn cynnwys nifer o gliwiau am y cyfranogwyr y byddai myfyrwyr gwyddoniaeth fforensig yn eu harchwilio'n ddiweddarach fel rhan o'r ymchwiliad datblygol.
Dywedodd Arweinydd y Rhaglen Gwyddoniaeth Fforensig, Amy Rattenbury: "Wrth i'r digwyddiad heddiw fynd yn ei flaen, gadawodd ein drwgdybiedigion am dystiolaeth fforensig - a chafodd y dystiolaeth honno ei harchwilio gan ein myfyrwyr i helpu i greu darlun o'r hyn oedd wedi digwydd.
"Roedd myfyrwyr a gymerodd ran yn y rhan hon o'r diwrnod mewn gwirionedd yn cael eu hasesu'n ffurfiol ar eu gwaith fel rhan o'r digwyddiad – gan wneud hyn efallai yn un o'r asesiadau cwrs mwy diddorol rydym wedi'i wneud yma yn y brifysgol!"
Wrth i fyfyrwyr Plismona a Gwyddoniaeth Fforensig adeiladu darlun o'r hyn a ddigwyddodd, symudodd y ffocws at arestio'r rhai a ddrwgdybir. Gydag amheuaeth o gipio ar y gweill, galwyd trafodwr heddlu hyfforddedig i'r afael â'r sefyllfa yn nhŷ ymchwilio safle trosedd arbennig Glyndŵr.
Ar ôl cyfnod dirdynnol o drafod, cytunodd yr herwgydiwr i ryddhau ei gwystl cyn iddo gael ei arestio - a thorri cymeriad o’r diwedd.
Meddai Arweinydd Rhaglen Theatr, Teledu a Pherfformio, Elen Mai Nefydd: "I'n myfyrwyr, mae eu gwaith ar ymarfer cymhwysol, lle maen nhw'n adeiladu sefyllfa yn dilyn brîff gan y darlithwyr Plismona, yn hanfodol i lwyddiant y diwrnod.
"Mae'r digwyddiad yn rhoi llawer o bwysau arnynt ac mae'n rhaid iddynt ymateb mewn cymeriad i ddigwyddiadau carlam ac mewn sefyllfaoedd anghyfforddus neu ingol. Fodd bynnag, talodd eu paratoadau i ffwrdd - ac ar y cyd â myfyrwyr o Seicoleg, Troseddeg, Gwyddoniaeth Fforensig a Phlismona, am Ddiwrnod Safle Trosedd llwyddiannus arall.”
Bydd darlithwyr sy'n ymwneud â chynllunio a chynnal Diwrnod Safle Trosedd ymhlith y rhai a fydd yn cymryd rhan yn niwrnod agored cyntaf Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, ar ddydd Sadwrn, 29 Chwefror.
Mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle i ddarpar fyfyrwyr ddysgu mwy am yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael yn y brifysgol.
Yn rhedeg o 10yb tan 2yp ac yn gweithio yn y neuadd chwaraeon ar gampws Plas Coch Glyndŵr, mae’r diwrnod yn cynnig cyfle i ymwelwyr gweld cyfleusterau'r brifysgol, ymgolli mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r pwnc a chwrdd â staff y cwrs a'r myfyrwyr presennol.
Mae cyfle hefyd i ofyn yr holl gwestiynau pwysig am geisiadau, cyllid i fyfyrwyr a llety.