Anrhydedd aelod BAFTA i Ddarlithydd Wrecsam
Date: Dydd Mawrth, Tachwedd 28
Mae Darlithydd Cyfrifiadura a Gemau, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi cael ei gydnabod gan y British Academy of Film and Television Arts (BAFTA) am ei gyfraniad i'r diwydiant Gemau.
Mae Richard Hebblewhite, Arweinydd Rhaglen ar gyfer Datblygiad Gemau, Dylunio Gemau a Menter a Chelf Gemau ym Mhrifysgol Wrecsam, wedi cael ei dderbyn fel aelod llawn o BAFTA, i gydnabod ei ymdrechion i ddarparu cyfleoedd a chymorth allweddol ar gyfer stiwdios gemau annibynnol bach drwy fentrau fel Games Talent Wales, yn ogystal â’i gymhelliant i annog cyfranogiad ym maes Gemau gan ystod eang o oedrannau a galluoedd, drwy ei waith fel Trefnydd Rhanbarthol Rhyngwladol Global Game Jam.
Prif amcan y digwyddiad blynyddol Global Game Jam yw annog arloesedd a chydweithredu, ac i gysylltu pobl ar draws y byd wrth iddynt anelu at ddatblygu gemau fideo o’r dechrau i'r diwedd o fewn 48 awr. Mae hyn i gyd ar ben ei swydd bob dydd fel Uwch Ddarlithydd yn y Brifysgol.
Wrth siarad am ddod yn aelod BAFTA, dywedodd Richard ei bod yn “fraint enfawr”.
“Mae’n teimlo’n wych fy mod wedi cael fy nerbyn fel aelod llawn o BAFTA. I mi, mae’n gyfle gwych i yrru fy uchelgais o roi’r diwydiant Gemau Cymreig ar y map ac amlygu rhai o'r bobl anhygoel sy’n gweithio yn y maes yng Nghymru,” dywedodd.
“Fel rhan o’r broses i ddod yn aelod roedd yn rhaid i mi roi trosolwg o’r hyn rwy’n ei wneud, fy hanes blaenorol ond hefyd yr hyn rwy’n ei gyflwyno i’r gymuned BAFTA - felly rwyf wrth fy modd fod y panel yn hoffi'r hyn a welsant gennyf i. Yn sicr mae’n bleser cael y gwerthfawrogiad hwnnw gan gorff mor fawr ei fri.”
Gall aelodau BAFTA llawn gymryd rhan mewn pleidleisio dros wobrau perthnasol i’w profiad, gan gynnwys mynediad at ffilmiau a gemau a enwebwyd, yn ogystal â rhaglen blwyddyn gyfan o sgriniadau, digwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio gan bartneriaid BAFTA.