Cafodd Rob Mac ei groesawu i Brifysgol Wrecsam am drafodaeth feiddgar yn canolbwyntio ar y dyfodol gyda’n His-ganghellor.

Professor Joe Yates speaking with Rob Mac

Gyda’n gilydd, trafodon ni lansio ein rhaglen MSc Rheoli Busnes Chwaraeon newydd a chyffrous a chynlluniau i ddatblygu cynllun uchelgeisiol yn y croestoriad rhwng y celfyddydau ac entrepreneuriaeth.

Vice Chancellor Professor Joe Yates with Rob Mac

Mae’r cydweithrediad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredin Prifysgol Wrecsam, Clwb Pêl-droed Wrecsam a’i berchnogion i wella’r rhanbarth cyfan - gan hyrwyddo talent, annog twf cynhwysol, a chryfhau ein gweledigaeth i ddod yn brifysgol ddinesig fodern a blaenllaw. Sgwrs wych ynghylch yr hyn y gallwn ei gyflawni, ar y cyd, i Wrecsam.

Dywedodd Rob Mac, cyd-berchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam:

“Un o’r pethau mwyaf cyffrous am Wrecsam yw bod pawb eisiau i’r gymuned lwyddo. Rhwng y Clwb, y Brifysgol, y dref ehangach, ac yn bendant Ryan a minnau - rydym ni oll wedi ymrwymo i greu cyfleoedd ac adrodd stori fwy ynghylch yr hyn y gall y lle hwn fod. Tynnu chwaraeon, busnes, a’r celfyddydau at ei gilydd yw’r ffordd yr ydym ni’n paratoi ein hunain i gyflawni’r nod yn y pen draw...gyda’n gilydd.” 

Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor, Prifysgol Wrecsam:

“Mae’r sgyrsiau hyn yn adlewyrchu’r union fath o drawsnewidiad yr ydym yn ei lywio ym Mhrifysgol Wrecsam. Y croestoriad rhwng diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a busnes yw lle y daw cyfleoedd diguro i law, a ble y mae Wrecsam fel lle yn wirioneddol sefyll allan. Mae cydweithio- gyda phartneriaid fel Clwb Pêl-droed Wrecsam ac arweinwyr sy’n rhannu ein huchelgais - yn ein helpu i greu llwybrau sy’n arloesol, ond hefyd yn ehangu’r cyfleoedd i’n myfyrwyr ac yn sicrhau budd go iawn i’n cymuned. Ysbryd y cydweithrediad hwn fydd yn pweru ein taith i ddod yn brifysgol ddinesig fodern a blaenllaw.”