Canmoliaeth i fyfyriwr Glyndŵr am feddwl cyflym ac ymroddiad yn lleoliad damwain traffig
Mae darpar swyddog heddlu sydd yn hogi ei sgiliau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cael ei chanmol am ymateb yn gyflym i sicrhau fod dynes yn derbyn triniaeth feddygol.
Mae Holly Williams, 20, sydd yn Heddwas Gwirfoddol, wedi derbyn cymeradwyaeth gan Heddlu Gogledd Cymru am sylwi fod dynes a chafodd damwain car yn cael strôc.
Roedd Holly, sydd yn byw ger Llandudno, ar sifft yn Orllewin Conwy ar 15 Dachwedd pan gafodd ei galw i’r digwyddiad.
Pan gyrhaeddodd Holly sin y damwain un-cerbyd, sylweddolodd bod ochr chwith gwyned y ddynes yn gwyro ychydig. Rhoddodd Holly wybod i’w chyd swyddogion, a chafodd ambiwlans ei galw.
Sylwodd Holly hefyd fod y ddynes yn cydio yn ei braich chwith a bod ei chorff i’w weld yn wan ar yr ochr yna.
Yn ei gymeradwyaeth, dywedodd Uwch-arolygydd Jason Devonport fod arsylwadau Holly o gymorth i'r gwasanaeth ambiwlans roi diagnosis cyflym o strôc, ac y gallai ei "meddwl ochrol a barn gyflym” fod wedi achub dynes rhag niwed difrifol".
Ychwanegodd yr uwch-arolygydd fod cydweithwyr yn dweud fod gweithio gyda Holly yn “bleser” a bod ei gwirfoddoli’n dangos ymroddiad ac ymrwymiad eithriadol” i’w hardal.
Daeth sawl myfyriwr o gwrs BSc Plismona Proffesiynol Glyndŵr eu gwneud yn Heddweision Gwirfoddol mewn seremoni ardystio yn y brifysgol yn gynharach eleni.
Mae Holly wedi eisiau bod yn swyddog heddlu ers ysgol gynradd ac mae’n ceisio gwneud o leiaf un sifft yr wythnos.
“Dw i jest yn hoffi mynd allan a helpu pobl a gwybod y gallwch chi wneud gwahaniaeth.”
Bydd angen gradd mewn plismona ar bob swyddog newydd o'r flwyddyn nesaf, ac mae cwrs Glyndŵr yn rhoi'r wybodaeth ymarferol ac academaidd sydd ei hangen ar fyfyrwyr i baratoi ar gyfer gyrfa ym maes gorfodi'r gyfraith. Cydnabyddir y cwrs yn swyddogol fel cwrs gradd ‘cyn-ymuno’ gan y Coleg Plismona.
Dywedodd Holly: "Mae gwneud y radd a gwasanaethu fel Swyddog Gwirfoddol yn helpu rhoi dealltwriaeth o'r hyn rydyn ni'n ei ddysgu ac yna ei roi ar waith hefyd – mae'n fantais enfawr."
Dywedodd Andrew Crawford, uwch ddarlithydd plismona ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam, fod y ganmoliaeth yn gyflawniad eithriadol, yn enwedig mor gynnar yng ngyrfa Holly.
Ychwanegodd: "Rydym yn falch iawn o gael Holly ar y cwrs. Nid yw'r gymeradwyaeth yn cael ei roi I unrhyw un, mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylid fel arfer gan rywun sy'n cyflawni'r rôl. "