Canolfan Peirianneg ac Opteg Menter yn agosáu at gael ei chwblhau - gan nodi carreg filltir o ran cynaliadwyedd

Dyddiad: Dydd Lau, Mehefin 5, 2025
Mae partneriaid diwydiant, academyddion a'r rhai a fu ynghlwm â saernïo prosiect adeiladu cyntaf Cynllun Twf Gogledd Cymru wedi dod ynghyd i ddathlu ei gynnydd llwyddiannus fel datblygiad cynaliadwy.
Bellach yn nesáu at gael ei chwblhau, mae'r Ganolfan Peirianneg ac Opteg Menter(EEOC) ym Mhrifysgol Wrecsam yn ddatblygiad blaengar, a ddaw'n ganolfan arbenigol ar gyfer ymgysylltiad diwydiant, ymchwil ac arloesi.
Dechreuodd y gwaith yn swyddogol ar y ganolfan ym mis Chwefror 2024, a heddiw (Dydd Lau, Mehefin 5), bu i gydweithwyr o'r Brifysgol, Wynne Construction - prif gontractwr y gwaith adeiladu, ac Uchelgais Gogledd Cymru - y mae EEOC yn un o'i brosiectau, ddod ynghyd i nodi'r garreg filltir.
Bydd yr EEOC yn darparu canolfan i Ogledd Cymru ar gyfer cydweithio a datblygu sgiliau mewn cynaliadwyedd, deunyddiau adnewyddadwy, a gweithgynhyrchu gwerth uchel. Yn benodol, bydd yn canolbwyntio ar ddeunyddiau cyfansawdd fel opsiynau amgen ysgafn ar gyfer gweithgynhyrchu, cefnogi'r dasg o ddatblygu a mabwysiadu technolegau hydrogen, a manteisio ar fuddiannau arbenigedd opteg a ffotoneg.
Cyflwynir y prosiect ar draws dau o’n safleoedd Prifysgol – campws Plas Coch yn Wrecsam a Chanolfan Technoleg OpTIC yng nghampws Llanelwy.
Drwy'r holl waith datblygu sy'n digwydd ar gampysau'r Brifysgol, mae'r sefydliad wedi ymrwymo i leihau ei effaith amgylcheddol - ac roedd sicrhau bod y prosiect yn cyfrannu'n gadarnhaol at nodau bioamrywiaeth, datgarboneiddio a gwerth cymdeithasol yn greiddiol i gyflawni'r ganolfan drawsnewidiol hon.
Yn ystod y cyfnod adeiladu, gwnaed nifer o ddewisiadau o ran deunyddiau oedd â'r nod o leihau ôl troed carbon, yn cynnwys;
- Gosod cyfres sylweddol o baneli ffotofoltäig ar do'r adeilad. Drwy gynhyrchu trydan o oleuni'r haul, bydd hyn yn lleihau dibyniaeth y Brifysgol ar drydan grid, gan gefnogi nod gweithredol sero net yr adeilad.
- Ymgorffori lefelau uchel o ddeunydd insiwleiddio arloesol yn nyluniad yr adeilad, a fydd yn arwain at ostyngiad yn lefel yr ynni sydd ei hangen ar gyfer gwresogi ac oeri, gan leihau felly ar yr allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â'r defnydd o ynni.
- Gosod system pwmp gwres, a fydd yn trosi aer o'r tu allan yn wres y tu mewn i'r adeilad, gan leihau'r angen am systemau gwresogi traddodiadol sy'n allyrru mwy o garbon.
- Bu i'r tîm prosiect gaffael dur carbon isel ar gyfer y deunydd a ddefnyddiwyd ar y safle. Mae'r dur a ddefnyddiwyd wedi'i wneud o ddur ailgylchedig, a gynhyrchwyd mewn Ffwrnais Fwa Drydan (EAF) sy'n defnyddio llai o ynni na ffwrnais draddodiadol. Mae Ffwrneisi Bwa Trydan hefyd yn cynhyrchu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr, o gymharu â dulliau creu dur traddodiadol.
- Defnyddio Slag Ffwrnais Chwyth Gronynnog Mâl (GGBS) yn y gymysgedd concrid. Sgil-gynnyrch gweithgynhyrchu dur yw GGBS, a thrwy ei ddefnyddio mae'n lleihau ôl troed carbon concrid.
Mae'r prosiect hefyd wedi arwain at gynnydd o 30.5% mewn bioamrywiaeth ar gampysau'r Brifysgol - gyda phwyslais penodol ar gampws Llaneurgain - sydd wedi'i leoli hanner ffordd rhwng campysau Plas Coch a Llanelwy, lle mae coed wedi'u plannu.
Mae tîm safle Llaneurgain y Brifysgol yn y broses o hau hadau blodau gwyllt, a fydd yn creu tir nythu a bwydo i bryfed, adar ac anifeiliaid bach. Oherwydd ei leoliad gwledig, mae campws Llaneurgain mewn lleoliad delfrydol i gael y budd gorau posibl o ymyriadau effaith bioamrywiaeth o'r fath.
Mae'r cyfnod adeiladu hefyd wedi rhagori ar ei darged gwerth economaidd lleol a chymdeithasol - y rhagwelir iddo gyflawni 71.7 y cant yn erbyn nod o 67.9 y cant, gan ddangos ymrwymiad cryf i gyflawni buddion parhaol ar draws Gogledd Cymru.
Bu pwyslais sylweddol ar gyflogaeth leol, gyda thros 400 o swyddi wedi'u diogelu, a bron i 60 y cant o'r gweithlu'n preswylio yng Nghymru, gan gynnwys unigolion o rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig. Cefnogwyd yr economi ranbarthol gan y strategaeth cadwyn gyflenwi drwy gyfeirio 76 y cant o wariant i fusnesau bach a chanolig Gogledd Cymru, y mae bron i draean ohonynt yn gweithredu mewn ardaloedd o amddifadedd uchel.
Mae prentisiaethau wedi chwarae rhan hanfodol mewn datblygu sgiliau lleol, gydag 80 y cant o brentisiaid wedi'u recriwtio o Ogledd Cymru.
Gyda'i gilydd, dengys yr ymdrechion hyn ymrwymiad i dwf cynhwysol, datblygiad sgiliau, a phartneriaethau cymunedol cryf a fydd yn creu newid cadarnhaol parhaol.
Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: "Pleser oedd cael croesawu partneriaid o Uchelgais Gogledd Cymru a Wynne Construction i'r Brifysgol heddiw i ddathlu'r cam nesaf cyffrous hwn o'n datblygiad EEOC.
"Mae'r datblygiad yn cyd-fynd ag un o brif nodau ein Gweledigaeth 2030, sydd newydd ei lansio ac sy'n seiliedig ar ragoriaeth o ran ansawdd ac effeithiau gwaith ymchwil a menter, ac yn y pen draw, cyflawni arloesedd a thrawsnewidiad llwyddiannus.
"Gyda gwaith adeiladu'r EEOC yn agosáu at ben ei daith, mae hefyd yn nodi carreg filltir ragorol i gynaliadwyedd yng nghyfraniadau cadarnhaol y prosiect i ddatgarboneiddio, gwerth cymdeithasol a chyfoethogi bioamrywiaeth.
"Mae'r tîm prosiect wedi cyflawni gwaith ardderchog - rhwng sicrhau bod y deunyddiau wedi'i dewis a'u caffael yn ofalus er mwyn lleihau ein hôl troed carbon a sicrhau cynnydd o 30% mewn bioamrywiaeth ar ein campysau. Rydym yn falch o fod yn gytûn ag ethos Uchelgais Gogledd Cymru o feithrin twf economaidd ar gyfer Gogledd Cymru wrth sicrhau ar yr un pryd bod datblygiadau'n cael eu hadeiladu'n gynaliadwy.
"Er, o safbwynt gwerth cymdeithasol, yr hyn fu'n allweddol i'r prosiect oedd denu buddsoddiad i Ogledd Cymru a chreu cyfleoedd cyflogaeth lleol - ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod swyddi wedi'u creu drwy ddatblygiad EEOC.
"Rydym yn edrych ymlaen at agoriad swyddogol yr adeilad ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf, a gwireddu ein huchelgais o'i gweld yn datblygu i fod yn ganolfan arbenigol ar gyfer ymchwil a datblygu, ac yn hwb ar gyfer ymgysylltiad diwydiant, yma yng Ngogledd Cymru."
Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: "Rydym yn hynod falch o fod wedi cael cydweithio â Phrifysgol Wrecsam ar gyflawni'r adeilad eithriadol hwn a chael chwarae rhan mewn rhaglen drawsnewidiol sydd nid yn unig yn o fudd i'r Brifysgol ond hefyd i ranbarth ehangach Gogledd Cymru.
"Yn Wynne Construction, gwerth cymdeithasol yw conglfaen pob prosiect a ymgymerir gennym. Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni canlyniadau gwych i'r datblygiad EEOC, ar ôl cwblhau'r broses drosglwyddo. Mae hyn yn cynnwys cyfanswm gwariant o £6.5m gydag is-gontractwyr y mae £1.8m ohono wedi'i wario mewn ardaloedd o amddifadedd uchel a £407k gyda micro-fusnesau a busnesau bach a chanolig. Gan arwain at 59% o’r gweithlu'n preswylio yng Ngogledd Cymru.
"Hoffwn ddiolch o waelod calon i'r tîm cyfan am drosglwyddo eu harbenigedd i'r prosiect hwn ac am helpu i greu adeilad nodedig a fydd yn gadael etifeddiaeth arwyddocaol a pharhaol - yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol - i Wrecsam a'r cyffiniau."
Ychwanegodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Arweiniol ar gyfer rhaglen Arloesedd mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel Cynllun Twf Gogledd Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru: Roedd hi'n foment falch heddiw gallu ymuno â'n holl bartneriaid sydd wedi gweithio mor galed i ddod â'r adeilad arloesol hwn yn fyw.
"Mae'r EEOC yn enghraifft berffaith o'r datblygiad economaidd, cynaliadwy rydym yn ceisio'i gyflawni drwy ein rhaglen Arloesedd mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel - gan sicrhau cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant gwerth uchel yn ogystal â chefnogi busnesau gweithgynhyrchu i ddatgarboneiddio.
"Mae'r prosiect hwn yn wirioneddol wedi cyflawni'n gyflym wrth ddal ati i ganolbwyntio ar ei ymrwymiadau gwerth cymdeithasol, yr wyf yn falch iddynt hwythau gael eu hamlygu heddiw hefyd."
Mae'r EEOC ar y trywydd iawn i agor ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ym mis Medi 2025 yn brydlon ac yn unol ag amserlenni'r prosiect y cytunwyd arnynt gydag Uchelgais Gogledd Cymru.
Nodiadau i olygyddion:
- Bydd y Cynllun Twf yn cynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer Gogledd Cymru er mwyn creu dros 4,000 o swyddi newydd a sicrhau cynnydd o £2.4 biliwn yn y Gwerth Ychwanegol Gros (GVA). Mae'r cytundeb, a lofnodwyd ym mis Rhagfyr 2020, yn sicrhau cyllid o £120 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £120 miliwn gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi ym mhortffolio prosiect y Cynllun Twf.
- Ymhellach i effaith gwerth economaidd lleol a chymdeithasol y cyfnod adeiladu, yn ystod yr adeiladu, bu i allgymorth addysgol gyflwyno dros 1,000 awr o weithgareddau STEM, yn cynnwys gweithdai, ymweliadau ag ysgolion, a phrofiad gwaith, gan ymgysylltu â miloedd o ddisgyblion a myfyrwyr ac ysbrydoli gyrfaoedd yn y dyfodol. Bu ymgysylltiad cymunedol yn flaenoriaeth graidd yn ogystal, gan gefnogi 15 sefydliad lleol gyda chyllid ac oriau gwirfoddolwr. Mae'r prosiect wedi cyfrannu amser gwirfoddolwr i elusen ysbyty sy'n canolbwyntio ar wella ardaloedd awyr agored, yn cynnwys gwneud yr ardd yn hygyrch i wirfoddolwyr anabl. Mae'r gwaith hwn hefyd yn meithrin partneriaethau â sefydliadau iechyd meddwl, gan sicrhau effaith gymdeithasol barhaus.