Cwmnïau o Gymru yn cael eu hannog i uwchsgilio eu gweithlu gyda Phrentisiaeth Gradd
Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i weithio gyda Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam i ddod â dysgu i'w gweithle ac uwchsgilio eu gweithlu drwy Raglen Prentisiaeth Graddau'r brifysgol sydd wedi'i hariannu'n llawn.
Mae'r brifysgol ymhlith nifer o sefydliadau addysgol ledled Cymru sy'n gweithio i hybu sgiliau a helpu cwmnïau i ddenu, recriwtio neu ailhyfforddi pobl dalentog drwy'r rhaglen Prentisiaeth Gradd.
Fel y sefydliad sydd â'r arlwy Prentisiaeth Gradd fwyaf yng Ngogledd Cymru, mae Glyndwr eisoes wedi gweithio gyda llu o gwmnïau o Gymru i roi hwb i'w busnes – ac mae'n gallu cynnig Prentisiaethau Gradd mewn Peirianneg Meddalwedd, Seiberddiogelwch, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol, Peirianneg Gynhyrchu ac Arbed Ynni Diwydiannol ac Ynni Glân a Chynaliadwy.
Dywedodd Charlotte Oram-Gettings, Rheolwr Datblygu Busnes ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae Prentisiaethau Gradd yn gyfleoedd hynod gyffrous i gadw, denu a recriwtio talent o fewn sefydliadau preifat, cyhoeddus a di-elw.
"Mae Prentisiaeth Gradd yn cynnig cyfle i'r sawl sy'n astudio ennill tra byddant yn dysgu, a chan eu bod yn cael eu hariannu'n llawn ar gyfer busnesau yng Nghymru mae'n sefyllfa 'ennill buddugoliaeth' i'r cyflogwr a'r unigolyn - drwy fuddsoddi mewn person i dyfu gyda'r cwmni, mae cyflogwyr yn eu tro yn buddsoddi yn nyfodol y cwmni.
“Yng nghanol cyfnod mor heriol i lawer o sefydliadau, mae'n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn awr yn recriwtio, yn ogystal, ar gyfer diwedd Ionawr 2021 a bod cyllid ar gael i gyflogwyr ei ddefnyddio.”
Amlygwyd manteision Prentisiaethau Gradd ym Mhrifysgol Glyndŵr gan amrywiaeth o gyflogwyr – gan gynnwys cyfres o gwmnïau a gymerodd ran mewn gweminar ryngweithiol ddiweddar a gynhaliwyd gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Siaradodd Hanson HeidelbergCement, Tata Steel a’r Fifth Wheel Company yn y weminar am sut yr oeddent wedi gweithio ochr yn ochr â Glyndwr i sicrhau Prentis Gradd a pha mor fuddiol oedd y lleoliadau a ariannwyd yn llawn i'w busnesau.
Dywedodd Gethin Whiteley, Cyfarwyddwr Technegol Fifth Wheel: "Pan ddaeth y cwrs ar gael, llwyddwyd i gael un o'n prentisiaid ar y Cwrs Peirianneg Dylunio – ac mae'r hyn y mae'n ei ennill o fod yma yn y gwaith a mynd i'r brifysgol un diwrnod yr wythnos i ddysgu yn amhrisiadwy.
"Does dim byd tebyg i ddod â'r dysgu hwnnw i'r gweithle."
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cynnig eu Prentisiaethau Gradd wedi'u hariannu'n llawn gyda lleoedd yn dechrau ym mis Ionawr 2021.
Mae'r Prentisiaethau yn agored i gyflogwyr ledled Cymru ac mae cymorth a chyngor wrth law i unrhyw gwmni sy'n