"Cyfleoedd cyffrous” ar y gorwel wrth i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam sefydlu strategaeth newydd Gymraeg
Date: Dydd Lau Chwefror 2
Cynnydd yn y ddarpariaeth academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei addo ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, diolch i'w Strategaeth Academaidd Gymraeg a Chynllun Gweithredu newydd gael ei gymeradwyo a dechrau cael ei weithredu.
Wedi'i sylfaenu ar y sail bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal, mae'r cynllun yn dangos ymrwymiad y sefydliad i greu diwylliant gwirioneddol ddwyieithog a bydd yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd y strategaeth yn arwain y ffordd ar gyfer gwella a darparu datblygiad cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol, gyda’r blaenoriaeth ar:
- Creu graddedigion dwyieithog hyderus sy'n gallu gweithio'n broffesiynol yn y Gymraeg a'r Saesneg a helpu i greu gweithlu dwyieithog yng Nghymru drwy:
-
- Cynyddu nifer y cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr astudio yn y Gymraeg ac i ddiogelu'r hawl i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
- Gwella cymorth ac adnoddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i staff a myfyrwyr yn eu haddysgu a'u dysgu, a chreu amgylchedd dysgu sy'n cydnabod ac yn annog cymuned academaidd ddwyieithog yn benodol.
- Adolygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y brifysgol a nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu a chefnogi.
- Gwella gwelededd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a'i chyfraniad gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam i'r agenda genedlaethol o gynyddu'r ddarpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg.
Meddai Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu Academaidd Cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Mae hon yn garreg filltir enfawr nid yn unig i’r brifysgol ond hefyd i'r rhanbarth a Chymru gyfan.
“Gyda chefnogaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gallwn nawr gael gweithio ar gynnig darpariaeth ddwyieithog i'n myfyrwyr, yn ogystal â chyfleoedd cyffrous i staff ymgysylltu â'r iaith Gymraeg.
"Mae’r dyfodol yn gyffrous nawr ein bod wedi cymeradwyo a dechrau gweithredu ein Strategaeth Academaidd a'n Cynllun Gweithredu Cymraeg wrth iddo arwain at lawer o ddatblygiadau gwych ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cynnydd yn nifer y myfyrwyr dwyieithog, ni fel prifysgol yn cyfrannu at gryfhau gweithlu dwyieithog, ac wrth gwrs yn cyd-fynd â'n cysylltiadau cymunedol a diwylliannol, rhywbeth dwi'n hynod falch ohono.
"Mae manteision eraill o ganlyniad i'r strategaeth a'r cynllun yn cynnwys amddiffyn yr hawl gyfreithiol i fyfyrwyr astudio a derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, darparu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr Brifysgol Glyndŵr Wrecsam fel Y Dystysgrif Sgiliau Iaith a datblygiad proffesiynol parhaus staff y brifysgol, drwy gynllun Cymraeg Gwaith.”
Dywedodd Emyr Owen, a raddiodd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, rwy'n credu bod Strategaeth Academaidd a Chynllun Gweithredu Cymraeg yn gam cadarnhaol ymlaen i wella cyfleusterau Cymraeg yn y brifysgol ac rwy'n croesawu ei weithredu.
“Rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fyfyrwyr ar draws y brifysgol, gan ganiatáu i fwy o fyfyrwyr gael y cyfle i ddysgu ac ymgysylltu â'r brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Fel siaradwr Cymraeg balch, dwi'n gwybod pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n annog ac yn dathlu'r iaith. Nid yn unig mae bod yn ddwyieithog yn rhoi ymdeimlad cryf o hunaniaeth a pherthyn i mi, o safbwynt gyrfa, mae'n gryfder gwirioneddol i allu siarad dwy iaith."
Meddai Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Mae'r Coleg yn croesawu strategaeth newydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar gyfer yr iaith Gymraeg.
“Mae hwn yn gam pwysig iawn ymlaen yn hanes y brifysgol ac yn dangos eu hymrwymiad i gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i staff uwchsgilio yn y Gymraeg.
“Mae'n hanfodol bwysig bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael i fyfyrwyr addysg uwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, lle mae cynnydd amlwg wedi bod yn y galw am raddedigion dwyieithog yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r brifysgol wrth i'r strategaeth gael ei gweithredu."
Fis diwethaf, cynhaliodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ei Digwyddiad Cyfleoedd Cymraeg cyntaf, gyda'r nod o ddenu myfyrwyr sy'n astudio mewn coleg neu chweched dosbarth, sy'n chwilio am gyngor ac arweiniad ynghylch darpariaeth Gymraeg yn y brifysgol.
Ychwanegodd Elen Mai: "Roedd ein digwyddiad Cyfleoedd Cymraeg yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr prifysgol Cymraeg ddod i ddysgu sut rydym ni ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u hastudiaethau.
"Gwnaeth y myfyrwyr a fynychodd sylwadau ar ba mor wych oedd hi i wybod pa ddarpariaeth fydd ar gael iddyn nhw pe baen nhw'n dewis astudio gyda ni, a sut y bydden nhw'n cael eu cefnogi boed hynny trwy ddysgu'r Gymraeg, asesiadau, gofal bugeiliol, llety, a chyfleoedd drwy Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a llawer mwy."