Cyfres fer Troseddeg i ddadansoddi portreadau o droseddau go iawn yn y cyfryngau

Dyddiad: Dydd Mercher, Gorffennaf 23, 2025

Bydd y portread o achosion troseddol rhai o lofruddion mwyaf drwg-enwog y byd mewn ffilmiau a theledu yn cael ei ymchwilio fel rhan o gyfres fer gyfareddol, a gynhelir ym Mhrifysgol Wrecsam fis nesaf.

Ted Bundy, Charles Manson, Aileen Wuornos ac Alfredo Ballí Treviño yw’r llofruddion a fydd yn cael eu trafod yn y sesiynau ‘Lights, Crime, Action!’, a gynhelir o ddydd Llun, 4 Awst tan ddydd Iau, 21 Awst ar gampws Plas Coch y Brifysgol yn Wrecsam.

Dan arweiniad academyddion Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn y Brifysgol, mae’r sesiynau rhad ac am ddim hyn sy’n ysgogi'r meddwl yn archwilio portreadau o’r llofruddion cyfresol a’u troseddau mewn ffilmiau ac ar y teledu.

Dywedodd Dr Tegan Brierley-Sollis, Darlithydd mewn Plismona, Troseddeg a Dulliau sy’n Ystyriol o Drawma yn y Brifysgol: “Bydd y sesiynau yn canolbwyntio ar ddiddordeb y cyhoedd mewn llofruddion cyfresol yn ein cymdeithas – mae’n fusnes mawr yn y diwydiant diwylliant erbyn hyn, oherwydd portreadau mewn ffilmiau, cyfresi teledu a rhaglenni dogfen, y mae llawer o bobl yn eu gwylio yn eu hamser eu hunain.

“Yn ystod y gyfres, byddwn yn edrych ar y portreadau hynny o’r troseddwyr yn y cyfryngau, ond hefyd yn eu cymharu â’r hyn a ddigwyddodd mewn bywyd go iawn. Byddwn hefyd yn cymryd amser i gydnabod dioddefwyr y troseddau hyn, sy’n cael eu hesgeuluso weithiau yn anffodus, oherwydd drwg-enwogrwydd y llofruddion.

“Buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn troseddau go iawn, neu’n ystyried gyrfa ym maes cyfiawnder troseddol i ddod draw i'r sesiynau. Maent yn rhad ac am ddim i'w mynychu ac yn agored i unrhyw un dros 18 oed.”

Cynhelir sesiwn gyntaf y gyfres ddydd Llun, 4 Awst, a bydd yn canolbwyntio ar Ted Bundy, a lofruddiodd o leiaf 30 o fenywod a merched yn yr UDA yn y 1970au. Bydd yn canolbwyntio ar y ffilm Netflix ‘Extremely Wicked, Shockingly Evil and Vile’, gyda Zac Efron yn serennu ynddi – a glamoreiddio llofruddion cyfresol.

Dywedodd Dr Brierley-Sollis: “Mae'r ffordd y cyflwynodd Bundy ei hun yn y llys yn gyfareddol i’w gwylio, oherwydd bod llawer o bobl wedi gwneud sylw am ei edrychiad a’i ddengarwch, gan ddweud eu bod yn meddwl ei fod yn ddieuog. Roedd ei dreial yn gyhoeddus ac, o’u holi, nododd gwylwyr fod ei droseddau yn frawychus ond roeddent yn dal i wneud sylwadau am ei edrychiad.

“Unwaith y cafwyd Bundy yn euog, dywedodd y barnwr hyd yn oed y byddai wedi gwneud cyfreithiwr ardderchog ac y byddai wedi bod wrth ei fodd yn ei gael yn ymarfer yn ei lys ef.”

Bydd y sesiwn nesaf, a gynhelir ddydd Iau, 7 Awst, yn rhoi mewnwelediad i sut mae’r sinema yn portreadu cyltiau, gan ganolbwyntio ar y ffilm o 2018 ‘Charlie Says’, sy’n dilyn ymdrechion seiciatrydd carchar i helpu tair merch ifanc a gyflyrwyd i gyflawni llofruddiaeth dorfol gan arweinydd y cwlt, Charles Manson yng Nghaliffornia ym 1969.

Bydd y drydedd sesiwn yn ymchwilio i’r portread o Aileen Wuornos yn y ffilm ‘Monster’, gyda'r nod o ddadorchuddio’r portread o fenywod sy’n llofruddion cyfresol a'r rheiny sy’n disgyn y tu hwnt i statws ‘Dioddefwr Delfrydol’. Cynhelir y sesiwn ddydd Llun, 18 Awst.

Bydd rhan olaf y gyfres yn edrych ar y gynrychiolaeth o Alfredo Ballí Treviño yn y ffilm ‘The Silence of the Lambs’. Bydd y sesiwn hon, a gynhelir ddydd Iau, 21 Awst, yn ymchwilio i’r cyfryngau yn gorliwio achosion a’r portread rheibus o lofruddion cyfresol.

Cynhelir pob sesiwn rhwng 5.30pm – 6.30pm ar gampws Plas Coch y Brifysgol yn Wrecsam, ac maent yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac yn agored i unrhyw un sy’n 18 oed neu hŷn.