Cyhoeddi Is-Ganghellor newydd Prifysgol Wrecsam
Dyddiad: Dydd Mawrth, Ebrill 23, 2024
Mae'n bleser gan Brifysgol Wrecsam gyhoeddi penodiad yr Athro Joe Yates fel ein Is-Ganghellor newydd i gymryd yr awenau gan yr Athro Maria Hinfelaar ar ei hymddeoliad.
Bydd yr Athro Yates yn ymuno â'r Brifysgol yr haf hwn, o'i swydd bresennol fel Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau, Astudiaethau Proffesiynol a Chymdeithasol a Dirprwy Is-Ganghellor Lle a Phartneriaeth ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.
Cyflawnodd yr Athro Yates radd BA mewn Hanes, Gwleidyddiaeth a'r Cyfryngau, ac aeth ymlaen i dderbyn ei DPhil mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn 2007 o Brifysgol De Montfort. Enillodd MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Nottingham ac mae'n weithiwr cymdeithasol cymwysedig ac yn Swyddog Prawf hyfforddedig. Treuliodd 15 mlynedd yn gweithio ym maes polisi cymdeithasol a chyfiawnder troseddol fel gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cyfiawnder ieuenctid a rheolwr troseddau ieu enctid.
Yn 2007, ymunodd â Phrifysgol John Moores Lerpwl fel Pennaeth Troseddeg lle sefydlodd a chyd-gyfarwyddo'r Ganolfan Astudio Troseddu, Troseddoli ac Allgáu Cymdeithasol. Yn 2011 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Ysgol y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ac arweiniodd y gwaith o ddatblygu Canolfan Astudiaethau Plismona Uwch Lerpwl (Liverpool Centre for Advanced Policing Studies).
Gan ddangos ymrwymiad clir i ragolygon pobl ifanc, addysg a chyfiawnder cymdeithasol, mae'r Athro Yates wedi cynnal amrywiaeth o swyddi gwirfoddol ar gyrff llywodraethu gwahanol ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Symposiwm Cyfiawnder Ieuenctid Rhyngwladol yn y Ganolfan Ryng-Brifysgol yng Nghroatia ac yn Gadeirydd y Bwrdd Llywodraethu Rhanbarthol ar gyfer Cradle to Career, rhaglen ar lawr gwlad sy'n seiliedig ar le sy'n dod â phobl a sefydliadau ynghyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ar draws Dinas-ranbarth Lerpwl.
Mae'r Athro Yates yn Athro mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol ac mae wedi ymchwilio a chyhoeddi ym maes cyfiawnder ieuenctid gyda ffocws penodol ar ymatebion polisi i blant ymylol sy'n ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae wedi cynnal ymchwil ar gyfer y Coleg Plismona, y Swyddfa Gartref a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn ogystal ag ar gyfer amrywiaeth o grwpiau cymunedol, sefydliadau anllywodraethol ac elusennau.
Meddai Dr Leigh Griffin, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Wrecsam, a arweiniodd y broses recriwtio ac a gadeiriodd y panel penodi: "Mae'r Athro Joe Yates yn benodiad rhagorol. Mae ehangder ei brofiad, ei ymrwymiad i addysg uwch a'i werthoedd cryf yn golygu mai ef yw'r person delfrydol i ddatblygu'r etifeddiaeth a adawyd gan yr Athro Maria Hinfelaar. Edrychwn ymlaen at groesawu Joe yn ddiweddarach eleni a chydweithio ag ef ar y bennod nesaf i Brifysgol Wrecsam."
Meddai'r Athro Yates: "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Is-Ganghellor nesaf Prifysgol Wrecsam. Mae gan Brifysgol Wrecsam draddodiad deallusol balch ac ymdeimlad dwfn o bwrpas. Mae'r ymrwymiad dilys i gynhwysiant yn nodwedd allweddol o'r Brifysgol ac yn rhywbeth rwy'n ei rannu. Mae ymdeimlad gwirioneddol o gyffro ac egni o amgylch dyfodol y Ddinas a'r Brifysgol. Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o Wrecsam – gweithio mewn partneriaeth â staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid i gyflwyno'r sgiliau, yr arloesedd a'r ymchwil sydd eu hangen i gefnogi twf cynhwysol a ffyniant i genedlaethau'r dyfodol yn y Ddinas, Gogledd Cymru a'r rhanbarth ehangach."
Bydd yr Athro Yates yn ymgymryd yn ffurfiol â rôl Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam ym mis Awst 2024.