Cyhoeddi Prifysgol Wrecsam fel noddwr crys staff Widnes Vikings
Dyddiad: Dydd Iau, Ionawr 4, 2024
Mae Prifysgol Wrecsam wedi cael ei chyhoeddi fel noddwr crys staff Widnes Vikings ar ddiwrnod gêm ar gyfer tymor newydd Pencampwriaeth 2024.
Fel rhan o'r cytundeb blwyddyn, bydd logo'r Brifysgol yn ymddangos ar flaen a chefn crysau meddyg, hyfforddwr, ffisiotherapydd a chludwyr dŵr y tîm yn ystod dyddiau gêm o ddechrau'r tymor newydd.
Daw'r nawdd wrth i bartneriaeth strategol newydd gael ei chreu rhwng y Brifysgol a'r Llychlynwyr, sy'n ceisio darparu hyfforddiant trawsnewidiol, perfformiad a mewnwelediadau chwaraeon i fyfyrwyr a'r clwb.
Meddai Dr Simon Stewart, Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Wrecsam, ei fod yn gobeithio y bydd y cytundeb nawdd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a chyfranogiad mewn addysg uwch.
Dywedodd: "Rydym yn hynod falch o fod yn noddwr crys staff Widnes Vikings ar gyfer y tymor newydd.
"Mae cydweithio â'r clwb yn gyfuniad haen uchaf a thrwy ein partneriaeth strategol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae'n amlwg ein bod yn cyd-fynd â chenhadaeth gyffredin i wella perfformiad, optimeiddio methodolegau hyfforddi, a gwella datblygiad cyfannol chwaraewyr ymhellach.
"Rydym yn gobeithio, drwy fod yn noddwr crys staff diwrnod gêm y tîm, y gallwn gynyddu cyfranogiad ac ymwybyddiaeth o addysg uwch ymhellach, er mwyn codi dyheadau pobl ifanc yn ein cymunedau ac yn ehangach.
"Rydym wrth ein bodd gyda'r bartneriaeth hon ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd a chryfhau ein cysylltiadau â'r clwb."
Ychwanegodd Chris Hamilton, Pennaeth Gweithrediadau Widnes Vikings: "Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am ein partneriaeth gyda'r Brifysgol, rydym yn naturiol falch iawn o fod wedi sicrhau'r cytundeb noddi hwn ar gyfer tymor 2024.
"Mae'r crysau’n edrych yn wych a byddant yn hysbyseb dda iawn i Brifysgol Wrecsam drwy gydol y tymor.
"Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth ariannol hon ganddynt ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn yr estyniad hwn i'n partneriaeth bresennol."