Myfyrwyr hyfforddi pêl-droed rhyngwladol yn cael mewnwelediad i fyd y cynfyngrau yn ystod ymweliad sêr rhyngwladol Cymru
Gwelodd myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam sut mae pêl-droedwyr rhyngwladol yn delio â’r cyfryngau cyn gêm allweddol.
Cafodd Jamie Crowther ac Ashley Russell - myfyrwyr blwyddyn tri ar gwrs BSc Hyfforddi Pêl-droed a'r Arbenigwr Perfformiad - y cyfle i fynychu cynhadledd i’r wasg a gynhaliwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn y brifysgol.
Roedd Joe Allen, Johnny Williams, Will Vaulks a Neil Taylor - cyn chwaraewr Wrecsam a gafodd ei fagu yn Rhuthun - sgwrsio hefo newyddiadurwyr cyn i dîm Ryan Giggs herio Croatia mewn gêm ragbrofol Ewro 2020.
Mae’r garfan wedi treulio’r wythnos yng Nghanolfan Datblygu Pêl-droed yr FAW ym Mharc y Glowyr.
Mae Jamie, 27, yn chwaraewr canol cae i CPD Tref Caernarfon ac yn hyfforddwr yn Academi Airbus. Mae’n bwriadu astudio cwrs ôl-raddedig yn y brifysgol ym mis Medi.
“Yn Uwchgynghrair Cymru dda ni’n cael llawer o sylw gan S4C, felly mae’n dda gweld sut mae chwaraewyr yn delio â’r cyfryngau,” meddai.
“Fel hyfforddwyr efallai bydden ni yn y sefyllfa yna ryw ddydd ac roedd yn dda gweld sut ydach chi’n delio â hynny.”
Mae Ashley, 21, yn dod o Wrecsam ac yn hyfforddi yn Academi'r Seintiau Newydd.
“Mae’n wych i weld chwaraewyr ar y lefel uchaf - ac i weld sut maen nhw’n cyfathrebu hefo pobl eraill oddi ar y cae,” meddai.
“Fel hyfforddwyr da ni’n gweld llawer o bethau ar y cae, felly roedd yn dda i weld chwaraewyr ar ‘ddyletswydd cyfryngau’ ac yn gwneud pethau eraill oddi ar y cae.”
Cafodd y myfyrwyr cyfle hefyd i gwrdd â’r chwaraewyr a chael tynnu lluniau hefo nhw ar ôl y gynhadledd.
Mae’r radd BSc Hyfforddi Pêl-droed ac Arbenigwr Perfformiad yn rhaglen arloesol sy’n cyfuno gwobrau hyfforddi pêl-droed mewn cwrs academaidd er mwyn galluogi myfyrwyr i ennill cyflogaeth ym myd bêl-droed.
Cynlluniwyd y radd mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru), i ehangu gwybodaeth pêl-droed penodol a'i gymhwysiad i'r amgylchedd bêl-droed.
Roedd Jamie, sydd yn dod o’r Wyddgrug, yn llawn canmoliaeth i’r cwrs, yn ogystal â darlithwyr Sara Hilton a Chris Hughes.
“Y peth gorau i fi oedd gallu mynd â’r wybodaeth theori o’r dosbarth allan i’r cae,” meddai Jamie.
“Mae Sara a Chris wedi integreiddio ochr theori pêl-droed hefo’r byd go iawn - a da ni wedi’i gweithredu’n ddyddiol hefo plant ifanc a chwaraewyr tîm cyntaf.”
Ychwanegodd Ashley cwrs wedi bod yn fuddiol nid yn unig iddo fo, ond i’r chwaraewyr mae o’n hyfforddi.
Dywedodd: “Mae’r wedi bod yn dda iawn, mor fanwl, ac fel ymarferwr mae’n wych cael gweithredu’r theori i’ch ymarfer. Dw i wedi cael gymaint o gyfleoedd yn y brifysgol ac i ffwrdd hefyd,”
Ychwanegodd lefarydd ar gyfer yr FAW: “Roedd Cymdeithas Pêl-droed Cymru wrth ein bodd i groesawu dau fyfyriwr o’r cwrs BSc Hyfforddi Pêl-droed ac Arbenigwr Perfformiad I weld cynhadledd i’r wasg y tîm cenedlaethol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Rydym yn gobeithio eu bod nhw wedi cael mewnwelediad pwysig i’r agwedd yma o bêl-droed rhyngwladol - un gall o bosib eu helpu yn eu gyrfaoedd hyfforddi.”