Darlithydd Chwaraeon yn amlygu pwysigrwydd cysylltiadau cryf yn y diwydiant ar ôl cefnogi codi arian cymunedol
Date: Dydd Llun Gorffennaf 10
Mae darlithydd chwaraeon wedi sôn am bwysigrwydd prifysgolion gan sicrhau eu bod yn cynnal cysylltiadau a phartneriaethau cryf yn y diwydiant, er mwyn darparu cyfleoedd a phrofiadau datblygu cadarnhaol i fyfyrwyr.
Gwnaeth Dr Chelsea Batty, Uwch Ddarlithydd mewn Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Cymhwysol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW), y pwynt ar ôl cefnogi Fervid Fitness – campfa yn y Fflint – gyda chystadleuaeth codi pŵer elusennol.
Cododd y digwyddiad sy'n cael ei redeg gan y gampfa, sydd â chytundeb partneriaeth gyda'r brifysgol, fwy na £700 ar gyfer elusen Giddo's Gift, sydd wedi'i lleoli yn Y Fflint, a sefydlwyd er cof am Jordan Giddins, merch ifanc o'r Fflint, a oedd yn cael ei hadnabod fel Giddi, a fu farw yn 2017 yn 18 oed, yn dilyn brwydr gydag Ewings Sarcoma – math prin o ganser sy'n effeithio ar esgyrn neu'r meinweoedd o amgylch yr esgyrn. Mae'n effeithio ar blant a phobl ifanc yn bennaf.
Llwyddodd Dr Batty, a lwyddodd i gystadlu ym mhencampwriaethau Codi Pŵer Prydain eleni a fydd yn cael eu cynnal fis nesaf, helpu i drefnu'r gystadleuaeth codi pŵer elusennol a hefyd cefnogodd redeg y digwyddiad.
Meddai: "Ar ran y tîm yn Fervid Fitness, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran ac a gefnogodd ein digwyddiad elusennol. Roeddem yn falch iawn o godi mwy na £700 ar gyfer elusen leol, Giddo's Gift. Roedd hefyd yn wych cael 26 o bobl i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
"Fel prifysgol, rydym yn falch o'n perthynas gref gyda phartneriaid lleol – ac mae Fervid Fitness, yn arbennig, yn ein cefnogi trwy ganiatáu i ni ddefnyddio eu cyfleusterau campfa ardderchog. Maent hefyd wedi ein cefnogi yn y gorffennol gyda digwyddiadau sgrinio iechyd.
"Rydym hefyd mewn trafodaethau ynghylch eu potensial o gynnig cyfleoedd lleoliad i'n myfyrwyr, yn enwedig i'r rhai sy'n ystyried gyrfa fel Hyfforddwr Campfa neu Hyfforddwr Personol.
"Mae cynnal y cysylltiadau cadarnhaol hyn â'r diwydiant a phartneriaethau lleol yn hanfodol i ni fel sefydliad, mae'n golygu ein bod yn gallu hwyluso cyfleoedd a phrofiadau datblygu ystyrlon i'n myfyrwyr."