Darlithydd Glyndŵr a’i merch yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith yn Wrecsam
Mae darlithydd o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yn falch bod ei merch wedi ymuno â hi i helpu i helpu’r Gymraeg i ffynnu.
Elen Mai Nefydd yw Llysgennad Iaith Glyndŵr tra bod ei merch wyth oed Gwen yn rhan o dîm o ddisgyblion sy’n hyrwyddo’r iaith yn Ysgol Plas Coch yn Wrecsam.
Dywedodd Elen, sydd yn Arweinydd Rhaglen Theatr, Teledu a Pherfformio: “Mae’n gyfnod cyffrous i’r iaith Gymraeg, ac y mae diddordeb yn yr iaith wedi cynyddu, yn enwedig yn yr ardal yma, mae mwy a mwy o bobl a diddordeb mewn defnyddio’r iaith yn y gweithle ac ar lafar ac felly mae rol llysgennad iaith mewn ysgol neu Brifysgol yn hollbwysig i gyd-lynu a meithrin yr egni yma.
“Gall oedolion a phobl ifanc cyflawni rôl bwysig wrth genhadu dros yr iaith a helpu i godi hyder pobl wrth siarad Cymraeg o ddydd i ddydd.
“Dwi’n falch iawn ein bod ni’n dwy, yn ein ffordd ein hunain, yn gwneud yr un peth.
Meddai pennaeth Ysgol Plas Coch, Osian Jones: “Mae Gwen a gweddill y llysgenhadon iaith yn gweithio’n agos efo staff, disgyblion a rhieni yr ysgol i roi ar waith targedau’r Siarter Iaith.
“Ymysg dyletswyddau eraill, bydd Gwen a’i chyd lysgenhadon yn trafod a’i chyd ddisgyblion am syniadau, gweithgareddau a digwyddiadau i hybu’r iaith a’r diwylliant e.e. Dydd Miwsig Cymru, ac yn annog holl ddisgyblion yr ysgol i siarad Cymraeg yn y dosbarth, ar yr iard ac ar ymweliadau addysgol a thripiau.
“Byddant hefyd yn cael cyfle ar ddiwedd y flwyddyn i adrodd i lywodraethwyr yr ysgol ar eu gwaith dros y flwyddyn.”