Darlithydd PGW yn cyfrannu at lyfr Comedy in Crises sydd newydd ei gyhoeddi
Date: Dydd Mawrth Mehefin 6
Mae darlithydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi ysgrifennu pennod mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi, sy’n canolbwyntio ar y maes astudiaethau comedi datblygol sy’n gysylltiedig â ffurfiau celfyddydol amrywiol.
Mae Paul Jones, Uwch-ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain, wedi cyfrannu at y llyfr, ‘Comedy in Crisies: Weaponising Humour in Contemporary Art’, cyhoeddiad Palgrave Macmillan, a olygwyd gan Chrisoula Lionis.
Mae’r llyfr yn cynnig persbectif unigryw i faes astudiaethau comedi, gan gynnig dealltwriaeth tuag at gymhelliant a derbyniad hiwmor mewn ffurfiau celfyddydau modern amrywiol, drwy ddwyn ynghyd ymchwil gan artistiaid, damcaniaethwyr, curaduron, a haneswyr o bedwar ban byd.
Yn wreiddiol, roedd y cysyniad i fod ar ffurf cynhadledd yn 2020, fodd bynnag, pan darodd y pandemig, penderfynwyd y byddai cyfraniadau’n cael eu defnyddio ar gyfer llyfr, a fyddai’n dadansoddi’r defnydd cynyddol o hiwmor gan artistiaid o bob cwr o’r byd, gan wneud yn glir pa mor hanfodol bwysig yw chwerthin wrth gyfryngu’r trawma cyfunol sy’n bodoli yn y byd modern.
Yn ei bennod, mae Paul yn rhoi pwyslais ar fynd i’r afael â’i hunaniaeth fel Cymro – o’i safbwynt fel Cymro di-Gymraeg, sy’n digwydd byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn Y Waun – gan ddefnyddio hiwmor i archwilio’r gwrthdaro a’r heriau mewnol y mae’n eu profi.
Dywed: “Mae wedi bod yn fraint wirioneddol cyfrannu at y llyfr gwahanol a gafaelgar yma. Mae’r testun yn hynod ddiddorol ac fe ganiataodd imi ddefnyddio un o themâu allweddol fy nhraethawd PhD.
“Er bod y sylw wedi ei roi i raddau helaeth yn y llyfr ar argyfwng sy’n peryglu bywyd – gan gynnwys rhyfel, argyfwng amgylcheddol, Covid – a llawer mwy, roeddwn yn gallu archwilio pwnc sydd ar y cyfan yn un chwareus – ac rwy’n credu i hynny ddod â rhywfaint o ryddhad ac ysgafnder i’r llyfr.
“I mi, mae gan gelf a hiwmor rolau pwysig i’w chwarae’n gymdeithasol yn ystod gwrthdaro, er enghraifft, nid yw celf yn ymwneud â dim ond creu cynnyrch gorffenedig hardd, mae hefyd yn gallu helpu i gyfleu negeseuon pwysig a bod yn gatalydd er newid.
“Mewn sawl ffordd, mae celf a hiwmor yn dod â’r hyn sy’n guddiedig mewn bywyd pob dydd i ffocws. Mae ganddynt y gallu i fyfyrio ar y cyflwr dynol, ac yn aml yn gallu darparu sylfaen gref ar gyfer tir cyffredin llawn parch, parth niwtral, o ble modd cychwyn ar ddialog mwy cadarnhaol a chynhyrchiol, gallech ddweud.”
Mae rhagor o wybodaeth am y llyfr, yn ogystal â ble i’w brynu, ar gael yma.