Datblygu cymuned ymarfer rhagnodi cymdeithasol
Date: Gorffennaf 2022
Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a chyd-arweinydd rhagnodi cymdeithasol ar gyfer Mudiad 2025, yn myfyrio ar ddatblygiad arfer rhagnodi cymdeithasol ledled gogledd Cymru ac effaith y Gymuned Ymarfer sy'n tyfu a ddatblygwyd drwy 2025.
Mae rhagnodi cymdeithasol yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n nod a rennir ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam drwy ein Cenhadaeth Ddinesig a Mudiad 2025 i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol ledled gogledd Cymru.
Mewn cyfnod pan mae ein cymdeithas yn gwella o’r trawma a brofwyd gennym i gyd, ac effaith barhaus y pandemig, mae mwy o angen nag erioed am ragnodi cymdeithasol wrth i unigolion, teuluoedd a chymunedau ddod i delerau ag effaith y ddwy flynedd ddiwethaf.
Dyma pam ei bod wedi’i datblygu fel un o flaenoriaethau allweddol 2025 drwy’r dull ‘Tîm Gwneud’ sy’n uno arweinwyr ac ymarferwyr o ledled gogledd Cymru i ddylunio a phrofi syniadau a datblygu datrysiadau a dulliau er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Wedi’i wneud yng ngogledd Cymru
Nod y Tîm Gwneud rwyf yn ei arwain gyda Glynne Roberts, Cyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw datblygu dull ‘Wedi’i wneud yng ngogledd Cymru’ ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.
Mae ein rhanbarth ar flaen y gad o ran arfer ac arloesedd rhagnodi cymdeithasol, ond rydym yn cydnabod ein bod angen bod yn greadigol wrth fynd i’r afael â rhai heriau o hyd. Mae’r sail ymchwil a thystiolaeth esblygol yn golygu bod rhagnodi cymdeithasol yn aml ond yn cael ei dreialu ar draws y rhanbarth, ac mae hyn yn achosi bylchau yn y ddarpariaeth a dulliau.
Er bod sail dystiolaeth gynyddol, nid yw rhaglenni rhagnodi cymdeithasol yn derbyn cyllid craidd, ac felly mae pob sefydliad sy’n cymryd rhan yn defnyddio lefelau amrywiol ohono, ac yn gorfod gwneud cais am lefelau amrywiol o gyllid. Yn aml, mae cyllid cyfyngedig yn arwain at effaith gyfyngedig, yn enwedig os nad yw’r rhaglenni o fewn yr un rhanbarth yn gysylltiedig, os nad ydynt yn medru cyfathrebu â’i gilydd, ac felly yn methu â chipio dysg.
Datblygu Cymuned Ymarfer
Un ffocws allweddol i ni yn 2025 oedd sefydlu a meithrin Cymuned Ymarfer er mwyn ein galluogi i fanteisio ar gryfder arferion rhagnodi cymdeithasol yng ngogledd Cymru ac ymateb i'r her o sut i ail-ddychmygu gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a darpariaeth y trydydd sector.
Wedi’i lansio bedair blynedd yn ôl, mae’r Gymuned Ymarfer wedi tyfu’n sylweddol, gyda dros 300 o ymarferwyr yn mynychu ein digwyddiadau, ac yn gweithio gyda’i gilydd i rannu arfer da, myfyrio ar heriau, ac archwilio syniadau arloesol a ffyrdd newydd o weithio.
Mae ein Cymuned Ymarfer hefyd yn un o bartneriaid Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, model cynaliadwy hirdymor sy’n uno ymarferwyr allweddol o amrywiaeth o gefndiroedd i ddatblygu, gwella, cysylltu a rhannu arfer rhagnodi cymdeithasol.
Yr her nesaf yw cefnogi’r Gymdeithas Ymarfer i dyfu, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod yn berthnasol i anghenion y gymuned rydym yn ei gwasanaethu, a chreu llwyfan gadarn er mwyn ymgysylltu a dylanwadu’r gwaith o gomisiynu, ariannu a chefnogi rhagnodi cymdeithasol er mwyn canolbwyntio ar ataliaeth.
Ymchwil ac effaith
Un o'r prif ffocws ar gyfer ein gwaith drwy'r Gymuned Ymarfer yw archwilio sut allwn ddangos gwell tystiolaeth o effaith rhagnodi cymdeithasol, sy'n cael ei wneud mewn ystod eang o ffyrdd.
Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymuno â chwmni tech er da, Elemental Software, i ddefnyddio eu llwyfan i gipio cynnydd ac effaith prosiectau fel cynllun peilot Hybiau Cymorth Cymunedol Gogledd Cymru a phrosiect Cymru Gynnes i gefnogi pobl sydd mewn perygl o dlodi tanwydd.Bydd y data a gasglwyd drwy'r bartneriaeth hon, ynghyd â gwaith gwerthuso arall sydd wedi'i gomisiynu, yn amhrisiadwy oherwydd bydd yn ein galluogi i ddangos yn wirioneddol y canlyniadau iechyd a lles a gyflawnwyd drwy ddull rhagnodi cymdeithasol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sail i’n holl waith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Diolch i’r gwaith rydym wedi'i ddatblygu o ran rhagnodi cymdeithasol yng ngogledd Cymru, rydym wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn cydweithrediadau i lywio blaenoriaeth rhagnodi cymdeithasol Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a rhannu dysg, yn ogystal â mynychu grwpiau ar lefel Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn dyst mawr i'r gydnabyddiaeth mae ein rhanbarth yn ei hennill o amgylch yr agenda hon
Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn barhau i hyrwyddo a bod yn llais dros ragnodi cymdeithasol ledled Gogledd Cymru, a gwneud gwahaniaeth pellach o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar draws y cymunedau rydym i gyd yn eu gwasanaethu.