Deon newydd Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadura a Pheirianneg wedi'i benodi ym Mhrifysgol Wrecsam

Date: Dydd Mercher, Awst 7, 2024

Mae ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o raddedigion Peirianneg, Cyfrifiadura a’r Celfyddydau drwy ddarparu amgylchedd dysgu cynhwysol a chwricwlwm yn un o’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer aelod diweddaraf Prifysgol Wrecsam o’i uwch dîm arweinyddiaeth. 

Mae gan yr Athro Anne Nortcliffe, sydd wedi ymuno â'r sefydliad fel Deon Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadura a Pheirianneg, fwy na 30 mlynedd o brofiad mewn peirianneg, addysg cyfrifiadura ac ymchwil, gan gynnwys uwch rolau mewn Addysg Uwch (AU). 

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd yr Athro Anne Nortcliffe: “Rwyf wrth fy modd ac yn hynod gyffrous fy mod wedi ymuno â’r tîm yma ym Mhrifysgol Wrecsam, ar adeg sy’n hynod ddiddorol i’r ddinas a’r sefydliad.   

“I mi, fy mlaenoriaeth gyffredinol yn anad dim yw addysgu’r genhedlaeth nesaf o raddedigion Peirianneg, Cyfrifiadura a’r Celfyddydau trwy gyflwyno cwricwlwm ac amgylchedd dysgu cyfartal, amrywiol a chynhwysol.   

“Nid yn unig y mae hyn yn fanteisiol o safbwynt profiad myfyrwyr a dysgu ond bydd hefyd o fudd i ddiwydiant ein rhanbarth, a fydd yn recriwtio ein graddedigion gan mai nhw fydd gweithlu Gogledd Cymru yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn frwd dros weithio'n agos gyda'n partneriaid yn y diwydiant er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau sgiliau a'u llenwi.” 

Mae’r Athro Nortcliffe yn tynnu ar ei rhesymau personol ei hun dros pam mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn flaenllaw ym mhob agwedd ar ei mentrau a’i phenderfyniadau. 

Meddai: “Gweithio gyda chyflogwyr i alluogi cyfleoedd gyrfa i bob myfyriwr â nodweddion lleiafrifol; menywod, anabl, LHDT+, cymdeithasol, economaidd, a mwyafrif byd-eang, o'r pwys mwyaf.   

“Fel menyw a niwroddargyfeiriol – cefais ddiagnosis o ddyslecsia yn 17 oed, rwy’n ymwybodol iawn o fy mhrofiadau dilys a’r sgiliau proffesiynol y gallaf eu cyflwyno wrth greu atebion peirianneg, technoleg a dylunio cynhwysol ar gyfer cymdeithas gyfan. 

“Fel prifysgol, mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i addysgu a grymuso ein holl fyfyrwyr a graddedigion ar gyfer byd gwaith, i gefnogi twf economaidd, rhanbarthol a chenedlaethol.” 

Er i’r Athro Nortcliffe dderbyn ei diagnosis yn 17 oed, dywedodd fod ei mam yn cydnabod ei bod yn ddyslecsig yn bedair oed yn unig – ac nid tan Blwyddyn 3 yn yr ysgol y dysgodd ddarllen. 

Fodd bynnag, nid yw erioed wedi caniatáu i'w gwahaniaeth dysgu ei dal yn ôl. Mae'r Athro Nortcliffe yn ymchwilydd a gyhoeddwyd yn rhyngwladol, sy'n dod â chyfoeth o brofiad arwain yn y sector AU gyda hi. Yn ei rôl flaenorol ym Mhrifysgol Eglwys Crist Caergaint, hi oedd Pennaeth sefydlu ei Hysgol Peirianneg, Technoleg a Dylunio.   

Wrth gyhoeddi bod yr Athro Nortcliffe yn ymuno â’r sefydliad, ychwanegodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor ym Mhrifysgol Wrecsam: “Rydym yn falch iawn o groesawu’r Athro Anne Nortcliffe i’r Brifysgol, sy’n dod â’i phrofiad helaeth o ymchwil ac arweinyddiaeth yn y sector gyda hi. 

“Bydd ei harbenigedd, ei gwybodaeth a’i hangerdd dros gynhwysiant yn ein helpu i wella ein harlwy ymchwil a’n cysylltiadau â diwydiant ymhellach, yn ogystal â pharhau i gymryd camau breision mewn perthynas â boddhad a phrofiad myfyrwyr. Mae’r Athro Nortcliffe yn ychwanegiad gwych at ein tîm arwain.”