Dirprwy Is-Ganghellor newydd yn rhannu ei uchelgeisiau ar gyfer Prifysgol Wrecsam

Date: Dydd Lau, Medi 12, 2024

Mae Dirprwy Is-Ganghellor newydd Prifysgol Wrecsam wedi rhannu ei uchelgeisiau ar gyfer y sefydliad nawr ei fod wedi dechrau'n swyddogol yn ei rôl newydd.

Mae'r Athro Paul Davies yn ymuno â'r Brifysgol o'i swydd flaenorol fel Deon y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru.

Wrth siarad am ei weledigaeth a'i ddyheadau ar gyfer y sefydliad yng Ngogledd Cymru, dywedodd yr Athro Davies fod atgyfnerthu statws y Brifysgol fel "prifysgol ddinesig fodern o'r radd flaenaf" yn hanfodol i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Meddai: "Rwy'n falch iawn fy mod wedi dechrau'n swyddogol yn fy swydd newydd ym Mhrifysgol Wrecsam, ac rwy'n hynod gyffrous am ddyfodol y sefydliad, yn ystod cyfnod llawn cyffro i Wrecsam.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, ein myfyrwyr a'n partneriaid, i gryfhau'r rôl sydd gennym wrth ymateb i heriau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ymhellach a sut y gallwn ddarparu atebion a mewnwelediadau trwy ein hymchwil ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn raddedigion llwyddiannus, sy'n cael effaith gadarnhaol a gwerthfawr ar ein cymdeithas a'n cymunedau, yn ogystal ag yn arbenigwyr yn eu gyrfaoedd dewisol.

"Un o'r pethau allweddol a'm denodd i'r rôl yma ym Mhrifysgol Wrecsam yw'r ffaith bod Cenhadaeth Ddinesig y sefydliad yn rhedeg drwy ei DNA - yr edau aur sy'n clymu popeth at ei gilydd yma - ac mae'n hanfodol ein bod, wrth ddatblygu ein strategaeth newydd i'n harwain drwy'r pum mlynedd nesaf, yn atgyfnerthu ein statws fel Prifysgol Ddinesig Fodern o’r radd flaenaf.

"Ni fu erioed well cyfle i lansio Prifysgol Wrecsam i fod yn frand byd-eang, sy'n darparu cyfleoedd i bawb, drwy'r addysg a ddarparwn sy'n trawsnewid bywydau."

Cyn gweithio yn y byd academaidd, bu'r Athro Davies yn gweithio yn y diwydiant adeiladu, yn bennaf ar ddatblygiadau seilwaith ar raddfa fawr, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'n Beiriannydd Siartredig ac yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac mae ganddo PhD mewn Dadansoddiad Strwythurol Uwch.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn bennaf yn y maes cryfhau a gwella strwythurol, gan ddefnyddio deunyddiau cyfansawdd datblygedig.

Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, sydd wedi ymuno â'r Brifysgol yn ystod yr wythnosau diwethaf fel yr Is-ganghellor newydd: "Rydym yn falch iawn o groesawu Paul yn swyddogol i Brifysgol Wrecsam. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio'n agos gydag ef.

"Mae gwerthoedd craidd Paul yn cyd-fynd yn gryf â rhai’r sefydliad, yn ogystal â'i agwedd eangfrydig a'i ymrwymiad i ddarparu'r addysg a'r profiad gorau i'n myfyrwyr."