"Diwrnod i fod yn falch ohono" wrth i Barc y Glowyr gael ei ail-lansio'n swyddogol

Date: Dydd Gwener Mehefin 9

Mae cyfleuster hyfforddi pêl-droed blaenllaw wedi'i ail-lansio i ddathlu'r bartneriaeth gryfach rhwng Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC). 

Cafodd Canolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol Parc y Glowyr, sydd wedi'i lleoli ar safle Glofa Gresffordd yn Wrecsam, ei hail-lansio'n swyddogol i ddathlu'r effaith y mae'n ei chael ar bêl-droed Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol, yn ogystal â sut mae'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r radd Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad yn PGW. 

Mae'r Ganolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol, sydd gwerth £5m, o fudd i'r gêm drwy ddarparu cyfleusterau hyfforddi hygyrch, o'r radd flaenaf i chwaraewyr ifanc a'r gweithlu pêl-droed ehangach yng Ngogledd Cymru. 

Croesawodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor PGW, a Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC, gynrychiolwyr o'r gymuned leol ac o bêl-droed Cymrui nodi'r achlysur. 
Meddai Mr Mooney: “Mae'r positifrwydd yn y ddinas hon yn anghredadwy. Mae'r haul wir yn tywynnu ar Wrecsam." 

Yn dilyn areithiau gan gynrychiolwyr PGW a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, torrwyd rhuban i ddathlu'r bartneriaeth barhaus rhwng y sefydliadau. 

Meddai'r Athro Hinfelaar: "Mae gan Wrecsam enw da fel 'cartref ysbrydol' pêl-droed Cymru, felly mae'n rhoi ymdeimlad o falchder enfawr i mi fod gan ein myfyrwyr fynediad i'r cyfleusterau gwych ym Mharc y Glowyr. 

"Mae ail-lansio'r cyfleuster yn dangos ein hymrwymiad i feithrin perthynas gryfach fyth gyda'n cydweithwyr yn CBDC ac i weithio gyda'n gilydd tuag at nodau a rennir. Mae'r ail-lansio heddiw yn ddiwrnod i fod yn falch ohono ac i ni ei ddathlu." 

Meddai Chris Hughes, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddor Pêl-droed a Hyfforddi yn PGW: "Rydym yn hynod ffodus i gael y ganolfan ragoriaeth hon fel rhan o'n cynnig prifysgol – ac rwy'n hynod falch – a hefyd yn ddiolchgar iawn amdano – y bartneriaeth wych sydd gennym gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae heddiw yn ymwneud â dod â phawb at ei gilydd a chydnabod hynny. 

"Mae'r cyfleusterau sydd gennym yma ym Mharc y Glowyr yn wirioneddol arwain y diwydiant, mae'n amgylchedd dysgu o ansawdd uchel mewn lleoliad pêl-droed, sy'n paratoi ein myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth ar bob lefel o bêl-droed. 

"Mae ein myfyrwyr yn gallu profi a dadansoddi pêl-droed lefel Uwch Gynghrair a Cynghrair y Pencampwyr, maent hefyd yn defnyddio'r gyfres dadansoddi perfformiad trwy'r sgriniau rhyngweithiol yn yr ystafelloedd dysgu, pa gemau yn fyw, mae'n brofiad dysgu gwirioneddol anhygoel. 

Roedd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr PGW, sydd wedi mynd ymlaen i sicrhau gyrfa mewn pêl-droed, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad arbennig. 

Laura Davies, Blwyddyn Olaf, Hyfforddi Pêl-droed a'r Arbenigwr Perfformiad, “Mae'r cyfleusterau ym Mharc y Glowyr yn rhagorol. Mae gennym gaeau 4G a glaswellt. Mae gennym hefyd swit ddadansoddi a meddalwedd y maent yn eu defnyddio yn yr uwch gynghrair. Yn ogystal, mae gennym y labordai gwyddor chwaraeon ar y prif gampws sy'n ganolfannau achrededig.”

Meddai Mr Mooney: "Mae Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol Parc y Glowyr yn gyfleuster ac amgylchedd gwych i bawb sy'n ei ddefnyddio.  

"Mae'r cyfleuster yn bresenoldeb pwysig i ni mewn ardal allweddol sydd â hanes pêl-droed cyfoethog. Rydym yn hynod falch o weld y bartneriaeth rhwng CBDC a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cael ei chryfhau fel bod Parc y Glowyr yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu ac addysgu ein chwaraewyr a'n hyfforddwyr ar gyfer y dyfodol."   

Mae gan fyfyrwyr ar radd Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad y brifysgol fynediad i'r cyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf ym Mharc y Glowyr sy'n cynnwys dau gae glaswellt a gymeradwywyd gan UEFA, cae 3G, yn ogystal â chyfleusterau campfa ac ardaloedd actifadu, ystafelloedd dosbarth, ystafell ddadansoddi a chyfleusterau newid. 

Maent hefyd yn cael y cyfle i ymgymryd â chyrsiau Hyfforddi Pêl-droed, gyda chefnogaeth y FAW o Wobr Arweinwyr Pêl-droed i Dystysgrif C FAW C a Thrwydded B UEFA.