DJ byd-enwog, sydd gefyd yn darlithydd Prifysgol Wrecsam, yw'r gwestai diweddaraf ar bodlediad Datgeliad Llawn
Date: Dydd Mawrth, Hydref 8, 2024
Mae DJ byd-enwog, sydd bellach yn darlithydd ym Mhrifysgol Wrecsam, yw'r gwestai diweddaraf ar bodlediad Datgeliad Llawn.
Graeme Park, Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau Creadigol ym Mhrifysgol Wrecsam, yw'r gwestai diweddaraf ar bodlediad wythnosol y gwesteiwr LBC, lle mae'n rhannu mewnwelediadau o'i yrfa amrywiol a'i rôl yn y Brifysgol.
Mae Graeme yn un o arloeswyr mudiad cerddoriaeth tŷ'r DU ac mae'n fwyaf adnabyddus am ei gyfnod preswyl naw mlynedd yng nghlwb eiconig Manceinion, The Hacienda. Mae wedi bod yn darlithio yn y Brifysgol ers 2008.
Yn ystod y bennod, mae Graeme yn siarad am sut y digwyddodd yr holl eiliadau diffiniol yn ei yrfa trwy ddamwain.
Meddai: "Fe ddes i'n DJ trwy ddamwain, fe wnes i orffen ar y radio ar ddamwain, gan ddod yn Uwch-ddarlithydd trwy ddamwain. Pan gaf gyfle a dwi'n meddwl - o, dwi'n licio hwn ac mae'n ymddangos mod i'n eitha' da am y peth, byddaf ynmanteisio ar y cfler ac yn gwneud yn siŵr y gallaf wedyn gadw'r sefyllfa yna.
"Dyna dwi'n dweud wrth fy myfyrwyr - dwi'n tynnu sylw [atyn nhw], peidiwch â chael gormod o hongian lan ar beth chi eisiau ei wneud ond os ti'n cael cyfle a ti'n licio fo, yna mae angen i ti gydio ynddo fo a gweithio arno, a dyna dwi wedi gwneud ar hyd fy mywyd."
Mae Graeme yn ymuno â rhestr o westeion nodedig blaenorol ar y podlediad, gan gynnwys Syr Keir Starmer, Angela Rayner, Archesgob Caergaint, a James Blunt, i enwi ond ychydig.
Wrth siarad am gael cais i ymddangos fel gwestai ar Full Disclosure, dywedodd: "Roedd hi'n anhygoel cael cais i ymddangos ar y podlediad - am gwpl o resymau a dweud y gwir, y ffaith bod gwesteion blaenorol wedi bod yn enwau enfawr iawn, felly doeddwn i ddim yn gallu credu ei fod eisiau siarad â mi am bob person ond hefyd rwy'n ffan o James, Rwy'n gwrando rheolaidd ar ei sioe foreol yn ystod yr wythnos ar LBC.
"Roedd hi'n bleser siarad efo fo - a be' oedd yn braf oedd bod cyn y recordiad ddim yn gwybod beth oedd o'n mynd i ofyn i fi, ac mae'n well gen i erioed. Rwy'n gweld bod yr ymagwedd honno'n fwy pleserus - ac rwy'n credu ei fod yn gwneud profiad mwy diddorol fel gwrandäwr."