Dros 400 o gyflawnwyr ifanc yn graddio o Brifysgol y Plant Gogledd Cymru, gan gychwyn llwybr o ddysgu gydol oes

Date: Dydd Llun, Mawrth 18, 2024

Bu i fwy na 400 o ddysgwyr ifanc ledled Sir y Fflint a Wrecsam raddio o Brifysgol y Plant Gogledd Cymru ar ôl cwblhau ystod o weithgareddau a phrofiadau dysgu allgyrsiol yn llwyddiannus. 

Cynhaliwyd y seremonïau ym Mhrifysgol Wrecsam ar 19 a 20 Chwefror ym Mhrifysgol Wrecsam i blant a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y fenter Prifysgol y Plant.  Trefnwyd mwy o seremonïau a fydd yn dathlu cyflawniadau 200 o blant a phobl ifanc eraill ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych a Gwynedd a Môn. 

Mae’r cynllun ysbrydoledig yn dathlu cyfranogiad mewn gweithgareddau a chyfleoedd dysgu y tu hwnt i oriau ysgol trwy annog plant a phobl ifanc i roi cynnig ar brofiadau dysgu newydd, mewn ymgais i feithrin hoffter gydol oes o ddysgu a chodi eu dyheadau. 

Roedd y seremonïau graddio llwyddiannus dros ddeuddydd ym Mhrifysgol Wrecsam yn dyst i holl waith caled y plant oedd wedi cyflawni 30 awr neu fwy o ddysgu allgyrsiol, eu hathrawon sydd wedi eu cefnogi a chynnal clybiau ychwanegol i’r plant a’r Tîm Cenhadaeth Ddinesig cyfan am gynnal y fenter anhygoel hon. Roedd dau berfformiad yn ystod y seremonïau gan Sophia Isabella Roberts, Ysgol Gynradd Victoria a Scarlett Thompson, Ysgol Uwchradd y Fflint. 

Sophia Isabella Roberts yn ystod ei pherfformiad.

Fel rhan o’r diwrnod, roedd adloniant a gweithgareddau arbennig ym Maes Gwyn, yn ogystal â nifer o gymeriadau adnabyddus yn ymddangos trwy gydol y digwyddiad. 

Dywedodd Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n hymrwymiad i gefnogi’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ar draws y rhanbarth, gan greu partneriaeth a chydweithio cryf gydag ystod eang o sefydliadau oll yn gweithio i greu newid i gefnogi plant a phobl ifanc. 

“Ein nod nawr yn datblygu hyn ymhellach ar draws Gogledd Cymru i gefnogi arweinyddiaeth, lles meddyliol a hoffter o ddysgu gan bobl ifanc sy’n cysylltu ein holl adnoddau cymunedol ynghyd. 

“Mae hwn wir yn ffordd ysbrydoledig o alluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd a chreu cyfleoedd ehangach i siapio dysgu plant a phobl ifanc gyda’i gilydd.” 

Cafodd y graddedigion eu llongyfarch gan yr Is Ganghellor a chawsant eu tystysgrifau. 

Yn dilyn peilot llwyddiannus o’r mentrau ar draws Wrecsam a Sir y Fflint y llynedd, bu i’r cynllun ehangu ar draws Gogledd Cymru rhwng Medi 2023 hyd at y mis hwn, o ganlyniad i  gyllid gan Gyngor Cyllid Addysg Uwch Cymru. 

Bu i’r cyllid hwn alluogi Prifysgol Wrecsam i weithio gyda Phrifysgol Bangor ac fel partner cydweithredol a nifer o bartneriaid rhanbarthol eraill i gyflwyno’r cynllun i fwy na 50 ysgol, fel rhan o genhadaeth ddinesig ar y cyd i weithio mewn partneriaeth i ddileu anghydraddoldeb cymdeithasol yn y rhanbarth. 

Cafodd dros 20 o gyrchfannau dysgu eu recriwtio ar draws Wrecsam, Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn fel rhan o’r cyflwyniad diweddaraf hwn o Brifysgol y Plant yng Ngogledd Cymru. 

Dywedodd Mr Rob Williams, Athro yn Ysgol Gynradd Southdown Sir y Fflint: “Ers dechrau’r cynllun peilot Prifysgol y Plant, bu effaith gadarnhaol ar yr holl blant sydd wedi cymryd rhan. Roedd yn amlwg pa mor ymroddgar oeddent wrth wneud gweithgareddau allgyrsiol yn eu hamser ei hunain, un ai gweithgaredd/chwaraeon maent wedi ei wneud o’r blaen neu rywbeth newydd maent wedi penderfynu rhoi cynnig arno. 

“Roedd hefyd yn rhoi amser i’r plant feddwl am yr hyn maent wedi ei gyflawni o bob gweithgaredd ac roeddent hyd yn oed yn gallu asesu eu hunain i weld beth wnaethant yn dda a sut y gallant wella - sydd yn rhywbeth pwysig iawn. 

“Roedd yn wych gweld y plant yn cymryd cyfrifoldeb am wneud oriau o ddysgu a phrofiadau ychwanegol a fydd gobeithio yn eu helpu ar hyd eu siwrnai.” 

Dywedodd Maria Hinfelaar, Is Ganghellor Prifysgol Wrecsam, a fu’n arwain y seremonïau graddio ym Mhrifysgol Wrecsam: “Yn aml mae pobl yn gofyn i mi beth rwyf fwyaf balch ohono wrth edrych yn ôl ar fy amser yn IG Prifysgol Wrecsam. Cystadleuydd cryf ar gyfer y foment fwyaf balch yw Prifysgol y Plant Gogledd Cymru. 

“Nod y prosiect yw cynyddu hyder a dyheadau oherwydd bod gan y plant hyn gymaint i’w gynnig. 

“Roedd gweld bob un ohonynt yn cerdded ar draws y llwyfan yn yr awditoriwm i gael eu llongyfarch yn bersonol gennyf i ac i gael eu tystysgrifau, yn gwenu o glust i glust a’u teuluoedd balch yn y gynulleidfa, yn rhoi gwir hyder i mi eu bod bellach wedi datblygu awch am ddysgu. 

“Bu iddo hefyd roi gobaith i mi fod graddedigion yn sylweddoli eu bod yn gallu bod yn beirianwyr, nyrsys, arbenigwyr TG, penseiri, cyfrifyddion, dylunwyr y dyfodol a chymaint mwy o bobl broffesiynol y bydd ein heconomi a’n cymdeithas eu hangen.” 

Mae lluniau 1af a 3ydd yn bwysig i: AC Creative