Dyfarnwyd cyllid o £80,000 i'r Brifysgol i ymgymryd ag astudiaeth wres carbon isel
Date: Dydd Lau Mehefin 29
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi derbyn cyllid i gynnal astudiaeth, sy'n ceisio pennu dichonoldeb datblygu rhwydwaith gwres carbon isel ar y campws.
Mae'r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net wedi darparu £80,000 o gyllid Uned Cyflenwi Rhwydweithiau Gwres (HNDU) i sefydliad Gogledd Cymru fel rhan o'i rownd ddiweddaraf o grantiau i helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru i newid i ffynonellau ynni cynaliadwy.
Bydd PGW yn defnyddio'r cyllid i gynnal astudiaeth ddichonoldeb fanwl, a fydd yn gwerthuso'r hyfywedd technegol ac economaidd o ddatblygu rhwydwaith gwres carbon isel ar gampws Plas Coch y brifysgol yn Wrecsam a busnesau cyfagos.
Dywedodd Paul Moran, Rheolwr Prosiectau Cyfalaf PGW, y byddai'r cyllid yn "hanfodol" wrth gefnogi'r sefydliad i chwarae ei ran wrth helpu i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a sero net erbyn 2050.
Meddai: "Rydym yn hynod falch ein bod wedi derbyn yr arian hwn gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net - ac yn teimlo ei fod yn gyfle gwych i ni yn y brifysgol symud yn agosach at leihau ein hallyriadau carbon gan ddefnyddio technolegau gwres carbon isel.
"Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda rhai canlyniadau rhagorol, ac mae cyflawni bod yn sero net yn rhan greiddiol o'n strategaeth, a chredwn y bydd yr astudiaeth hon yn cefnogi'r cyfrifoldeb cyfunol sy'n cael ei roi ar holl gyrff sector cyhoeddus Cymru i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i leihau carbon Llywodraeth Cymru.
"Hoffwn ddiolch i'r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net am ddyfarnu'r cyllid hwn i ni - a'n helpu ar ein ffordd i gyflawni statws sero net hanfodol."
Ymhlith blaenoriaethau adran y Llywodraeth mae sicrhau bod y DU ar y trywydd iawn i gyflawni ei hymrwymiadau Sero Net sy'n rhwymo'n gyfreithiol, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi, busnesau a'r sector cyhoeddus yn y DU.