Enwebiad ar gyfer pump Wobr Dewis Myfyrwyr Whatuni
Dyddiad: Dydd Mawrth Mawrth 14
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pum categori yng ngwobrau mwyaf y DU a phleidleisiwyd gan fyfyrwyr.
Gwobrau Myfyrwyr Whatuni (WUSCA) yw'r unig Wobrau Addysg Uwch yn y DU lle caiff sefydliadau eu barnu'n unig a'u hadolygu gan fyfyrwyr eu hunain ar draws amrywiaeth o gategorïau.
Mae PGW ar y rhestr fer yn y categorïau canlynol:
- Darlithwyr ac Ansawdd Addysgu
- Rhagolygon Gyrfa
- Cymorth i Fyfyrwyr
- Ôl-raddedig
- Rhyngwladol
Mae'r gwobrau blynyddol yn ddathliad o lais y myfyrwyr a gwaith caled darparwyr Addysg Uwch ledled y DU i ddarparu profiad eithriadol o fyfyrwyr.
Meddai'r Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor PGW: "Mae bob amser yn wych i PGW gael ei chydnabod ond mae'n arbennig o wych pan ddaw'r gydnabyddiaeth honno'n uniongyrchol gan ein myfyrwyr. Teimlaf fod hynny'n wir dyst i waith caled pawb yn y brifysgol i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo yn eu dysgu.
"Yn PGW rydym yn ymfalchïo ein bod yn amgylchedd croesawgar, yn ogystal â'n gwerthoedd o fod yn hygyrch, cefnogol, arloesol ac uchelgeisiol
"Mae'n wych, felly, gweld bod ein myfyrwyr mor falch o'u hamgylchedd dysgu trwy ddangos eu gwerthfawrogiad fel hyn drwy enwebu PGW ar gyfer y gwobrau hyn."
Daw'r newyddion yn sgil PGW yn cael ei rhestri’n gyntaf am foddhad myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr yng Nghanllaw Prifysgolion Cyflawn, yn ogystal ag am y bumed flwyddyn yn olynol, nifer un yng Nghymru a Lloegr am gynhwysiant cymdeithasol, ac roedd yn y 10 uchaf am ansawdd dysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da’r Times a’r Sunday Times Good University Guide 2023.
Eleni, teithiodd timau WUSCA ar draws y DU i gasglu mwy na 35,000 o adolygiadau myfyrwyr. Mae'r dull hwn o dan arweiniad myfyrwyr yn golygu bod sefydliadau sydd ar y rhestr fer yn cael eu cydnabod yn unigryw gan fyfyrwyr am ddarparu profiad rhyfeddol.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Llundain nos Fercher 26 Ebrill.