"Fe wnaeth Prifysgol Wrecsam fy ngweddnewid yn artist", meddai gof arian llwyddiannus
Date: Dydd Llun, Hydref 28, 2024
Mae un o’n raddedigion Celf wedi sôn am sut y newidiodd y brifysgol ei fywyd, a’i roi mewn sefyllfa dda ar gyfer ei rôl newydd fel artist preswyl mewn canolfan fawreddog sy’n ymroddedig i hyfforddi pobl ifanc yn y grefft o gof arian.
Graddiodd Jamie Watson o Brifysgol Wrecsam y llynedd gyda gradd Celfyddyd Gymhwysol.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae wedi’i gyhoeddi’n un o artistiaid preswyl Ymddiriedolaeth Addysgol Bishopsland, ar ôl preswyliad llwyddiannus am flwyddyn yn yr Ymddiriedolaeth, lle cafodd gyfle i fireinio ei grefft fel gof arian a gweithio ar nifer o prosiectau, gan gynnwys arddangosfa yn Cutlers’ Hall, arddangosfa dros dro yng Nghanolfan Gof Aur yn Llundain a Ffair Gemwaith a Gof Arian Desire.
Dywedodd Jamie, sy’n wreiddiol o Doncaster, mai tra’r oedd yn astudio yn Ysgol Gelf y Brifysgol, y taniwyd ei angerdd am gelf.
Meddai: "Roedd fy amser yn y brifysgol yn newid fy mywyd yn gyfan gwbl. Cyn y brifysgol, doeddwn i byth yn ystyried fy hun yn artist ond fe wnaeth Prifysgol Wrecsam fy gweddnewid yn un. Rhoddodd sylfaen gadarn i mi a'm helpu i ddatblygu fy meddylfryd artistig.
"Roedd fy sgiliau ymarferol yno yn barod - cyn mynd i'r brifysgol, roedd gen i lwybr hynod amrywiol. Un o fy swyddi blaenorol oedd adeiladu offer chwarae meddal plant - ac roeddwn hefyd wedi bod yn hyfforddwr gweithgareddau awyr agored. Fodd bynnag, doeddwn i erioed wedi archwilio unrhyw fentrau artistig.
"Felly, pan ymrestrodd fy mhartner ar gwrs Celfyddydau Cymhwysol y Brifysgol yn ôl yn 2019, rwy'n cofio teimlo'n gyffrous am yr hyn yr oedd hi wedi'i ddweud wrthyf am yr hyn oedd ar gael iddi fel myfyriwr - yn enwedig bod gefail o fewn y gweithdy, gan fy mod i wedi bod eisiau rhoi cynnig ar ofannu erioed."
Pan ddechreuodd Jamie ei radd yn 2020, darganfu ei ddawn am gofannu arian.
"Roeddwn i'n teimlo'n hynod ffodus bod y rhaglen radd yn cael ei harwain gan ddarlithwyr cefnogol a medrus o'r fath, a oedd nid yn unig yn fy annog ond hefyd wedi agor fy llygaid i'r ffaith y gallwn gael gyrfa yn gwneud rhywbeth roeddwn i wir wedi'i fwynhau," meddai.
Tra ym mlwyddyn olaf ei radd, anogwyd Jamie i wneud cais am breswyliad yn Bishopsland.
Meddai: "Roedd cael fy annog i wneud cais am le ar y preswyliad, ac yna ennill yn llwyddiannus, yn anhygoel - ac mae fy nysgu a'm twf ers dechrau yn Bishopsland wedi bod yn enfawr.
“Dwi wir wedi datblygu fy nghrefft fel gof arian ac yn teimlo’n hynod falch o fod yn artist preswyl presennol yr Ymddiriedolaeth. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw oni bai am astudio yn Wrecsam.”
Ychwanegodd Julie Mellor, Darlithydd Celfyddydau Cymhwysol ym Mhrifysgol Wrecsam: "Mae'n fy llenwi ag ymdeimlad aruthrol o falchder ein bod yn parhau i ddatblygu grŵp hynod dalentog o fyfyrwyr bob blwyddyn sy'n mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych ac yn gweithio'n galed i fireinio eu crefft a'u harddull artistig – mae Jamie yn enghraifft wych arall o hyn.
"Llongyfarchiadau mawr i Jamie nid yn unig am ei breswyliad blwyddyn lwyddiannus yn Bishopsland ond hefyd y ffaith mai ef yw eu artist preswyl presennol. Mae hynny'n llwyddiant mawr ac yn ddechrau rhywbeth cyffrous iawn i Jamie."