Graddedigion cwrs Amgylchedd Adeiledig Wrecsam yn cipio gwobrau
Date: Dydd Lau, Tachwedd 30
Mae tri o raddedigion y cwrs Amgylchedd Adeiledig Prifysgol Wrecsam, wedi cael eu gwobrwyo am eu cyflawniadau academaidd, a hynny wrth weithio mewn swyddi llwyddiannus yn eu proffesiynau ar yr un pryd.
Derbyniodd Bleddyn Williams, Anthony Caffrey a Tom Miller wobrau mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yn y Brifysgol, lle daeth partneriaid y diwydiant, graddedigion a staff y sefydliad ynghyd i ddathlu'r cysylltiadau cryf a ffurfiwyd gyda diwydiant.
Mynychodd cynrychiolwyr o Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Sifil (ICE), y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB), a Sefydliad Siartredig y Technolegwyr Pensaernïol (CIAT) y dathliad i glywed am gyflawniadau'r graddedigion ac i gyflwyno'r gwobrau.
Roedd pob un o'r enillwyr wedi derbyn y marciau cyffredinol uchaf yn eu modiwlau cyfunol yn ystod eu rhaglen radd.
Enillodd Bleddyn o Lanrug, a raddiodd mewn Astudiaethau Peirianneg Sifil, wobr Myfyriwr ICE yn benodol am gyflawni elfennau dysgu seiliedig ar waith ei gwrs, gan roi cydnabyddiaeth i'w ymroddiad i'w swydd bresennol fel Peiriannydd Cynorthwyol yn Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC).
Meddai: “Rwy'n falch iawn fy mod wedi ennill Gwobr Myfyriwr ICE – mae'n deimlad gwych bod y gwaith caled wedi talu ar ei ganfed. Mae'r cwrs wedi rhoi sylfaen dda iawn i mi o ddisgyblaethau Peirianneg Sifil.
“Roedd hefyd yn wych gallu dangos tystiolaeth o rai o fy nghanlyniadau dysgu seiliedig ar waith gyda phwyslais ar ddiwylliant a'r iaith Gymraeg – roedd hynny'n fuddiol iawn i mi fel siaradwr Cymraeg, sy'n gweithio mewn amgylchedd lle mae mwyafrif fy nghydweithwyr yn siarad Cymraeg.”
Derbyniodd Anthony, o Gei Connah, a raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Rheoli Adeiladu wobr Tystysgrif Rhagoriaeth CIOB. Astudiodd ar gyfer y cwrs ochr yn ochr â'i rôl fel Syrfëwr Contractau i Gyngor Sir y Fflint.
Wrth siarad ar ôl derbyn y wobr, dywedodd: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy nghydnabod fel hyn. I mi, mae wedi bod yn wych cael cyfle i astudio wrth weithio, ac roedd rhai o'm modiwlau yn cysylltu'n uniongyrchol â'm swydd, a oedd yn fuddiol. Mae'n teimlo'n dda cael y wybodaeth well honno, sy'n cefnogi'r hyn rydw i'n ei wneud yn y gwaith.
"Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Brifysgol a'm cyflogwr, Cyngor Sir y Fflint, am y gefnogaeth ddiderfyn a gefais wrth astudio ochr yn ochr â'm swydd."
Tom Miller oedd yn derbyn Gwobr CIAT i'r Myfyriwr Eithriadol sy'n Graddio. Graddiodd mewn Technoleg Dylunio Pensaernïol o Wrecsam, ac mae'n gweithio i Anwyl Homes fel Technegydd Pensaernïol.
Meddai: “Rwy'n falch iawn fy mod wedi derbyn y wobr hon. Mae'n teimlo'n dda cael mwy o ddealltwriaeth o'r diwydiant, diolch i'r hyn rydw i wedi'i ddysgu wrth astudio yn y Brifysgol.”
Meddai Gareth Carr, Arweinydd y Rhaglen Rheoli Adeiladu a Thechnoleg Dylunio Pensaernïol ym Mhrifysgol Wrecsam: “Llongyfarchiadau enfawr i Bleddyn, Anthony a Tom am dderbyn y tair gwobr i fyfyrwyr, i gydnabod eu gwaith caled a'u hymdrech gyson. Mae gweithio'n llawn amser ac astudio ar yr un pryd yn dipyn o gamp ond mae'r tri wedi gwneud yn eithriadol o dda i fod wedi rhagori yn eu hastudiaethau ac i fod yn llysgenhadon mor dda i'w cyflogwyr priodol.
“Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn ymfalchïo nid yn unig yn lefelau boddhad ein myfyrwyr ond hefyd yn ein cysylltiadau cryf â'n partneriaid yn y diwydiant. Roedd yn wych croesawu cynrychiolwyr o'r ICE, CIOB a CIAT i gyflwyno'r gwobrau yn bersonol, a hoffai'r Brifysgol ddiolch i'r tri chorff proffesiynol am eu cefnogaeth barhaus i'n myfyrwyr israddedig.”
Ychwanegodd Rhys Jones, Rheolwr Gwasanaeth – Technegol yn YGC, a oedd yn fentor ar Bleddyn: “Llongyfarchiadau i Bleddyn – ac i Anthony a Tom hefyd. Mae'n wych bod gennym ni gysylltiadau gwaith mor gryf gydag un o'n prifysgolion lleol.
“Mae'n fuddugoliaeth i bawb a gymerodd ran – llwyddodd Bleddyn i fanteisio ar fy ngwybodaeth ac rydym ni fel cwmni yn elwa o sgiliau ac addysg Bleddyn. O ran y Brifysgol, mae'n parhau i greu partneriaethau lleol cadarnhaol.”