Gwahodd darpar fyfyrwyr i ddiwrnod agored nesaf y brifysgol
Dyddiad: Dydd Llun Awst 14
Wrecsam/Prifysgol Wrecsam yn agor ei drysau i ddarpar fyfyrwyr yn ei diwrnod agored israddedig nesaf sy'n cael ei gynnal ddydd Sadwrn 19 Awst.
Yn un o'r digwyddiadau mwyaf a gynhelir ar y campws bob blwyddyn, bydd y digwyddiad, sy'n cael ei gynnal rhwng 10yb a 2yp, yn rhoi blas ar fywyd prifysgol i'r rhai sydd am gymryd eu camau nesaf i addysg uwch a gweld pa gyrsiau gradd israddedig sydd ar gael i'w hastudio ym Mhrifysgol Wrecsam.
Bydd hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am gyrsiau'r brifysgol, gweld cyfleusterau a deall pa wasanaethau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.
Drwy gydol y dydd, bydd sgyrsiau pwnc-benodol, teithiau campws a chyflwyniadau ar sut brofiad yw astudio yn Wrecsam, cyllido, gwneud cais, llety a mwy.
Meddai Andy Phillips, Pennaeth Recriwtio a Derbyniadau: "P'un a ydych yn agosáu at ddiwedd eich coleg neu astudiaethau chweched dosbarth neu'n edrych i archwilio llwybr gyrfa newydd, dewch draw i ddarganfod mwy am ba gyrsiau a chymorth rydym yn eu cynnig ym Mhrifysgol Wrecsam/Prifysgol Wrecsam.
"Mae dewis ble rydych chi eisiau astudio, a pha gwrs, yn benderfyniad mawr. Mae ein digwyddiadau diwrnod agored yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr gwrdd â'n staff cyfeillgar a'n myfyrwyr presennol, yn ogystal â gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
"Mae'n gyfnod hynod gyffrous i ymuno â ni yma yn Wrecsam, ni yw dinas fwyaf newydd Cymru. Mae cymaint yn digwydd ac mae cymuned ein prifysgol yn hynod fywiog a chlos. Byddwn yn annog y rhai sy'n ystyried eu camau nesaf mewn addysg i ddod draw a bod yn rhan o rywbeth arbennig.
Dewch i weld drosoch eich hun. Archebwch eich lle drwy'r ddolen isod neu galwch heibio a dewch draw ar y diwrnod. Rydym wir yn edrych ymlaen at eich croesawu chi."
Mae rhagor o wybodaeth am ddiwrnodau agored Prifysgol Wrecsam/Prifysgol Wrecsam ar gael yma. Gallwch archebu lle ar gyfer y diwrnod agored sy'n digwydd ddydd Sadwrn 19 Awst yma.