Gwahodd darpar fyfyrwyr o bob lefel i ddiwrnod agored i israddedigion ac ôl-raddedigion
Date: Dydd Mercher Tachwedd 22
Bydd Prifysgol Wrecsam yn agor ei drysau i ddysgwyr ar bob lefel fel rhan o ddiwrnod agored cyfunol cyntaf y Brifysgol sydd wedi’i anelu at ddarpar fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Bydd y diwrnod agored yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 25 Tachwedd rhwng 10am a 2pm, a bydd darpar fyfyrwyr yn gallu cael mewnwelediad i gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig a’r bywyd prifysgol sydd gan y Brifysgol i’w gynnig.
Mewn ymdrech barhaus i wneud addysg uwch mor hygyrch â phosibl, bydd darpar fyfyrwyr sy’n awyddus i archwilio eu hopsiynau’n gallu siarad â darlithwyr ac archwilio cyfleusterau o’r radd flaenaf y penwythnos hwn.
Bydd y digwyddiad diwrnod agored yn cael ei gynnal ar draws pedwar campws y Brifysgol - Plas Coch yn Wrecsam, Ysgol Gelf Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw, Llaneurgain a Llanelwy.
Dywedodd Helena Eaton, Cyfarwyddwr Marchnata a Recriwtio ym Mhrifysgol Wrecsam: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed fwy o ddarpar fyfyrwyr i’n digwyddiad diwrnod agored nesaf, a fydd yn cael ei gynnal y penwythnos hwn.
“Rydym yn ymfalchïo yn ein hygyrchedd a chynwysoldeb, a bellach gyda’n diwrnod agored cyfunol i israddedigion ac ôl-raddedigion, mae hyn yn golygu bod myfyrwyr ar bob lefel yn gallu dod i weld sut all Wrecsam lywio eu dyfodol.
“P’un a ydych ar eich blwyddyn olaf yn y coleg, yn awyddus i ddatblygu eich astudiaethau ymhellach, yn ystyried newid gyrfa, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio p’un a all addysg uwch fod yn ddewis da i chi, bydd ein staff wrth law i helpu i ddangos ichi sut all Wrecsam fod y dewis delfrydol i chi.”
Mae rhagor o fanylion am ddyddiau agored Prifysgol Wrecsam ar gael yma. Cadwch eich lle ar gyfer y diwrnod agored y penwythnos hwn yma.